Celf stryd newydd Caernarfon 'yn wledd i'r llygad'

Disgrifiad,

Celf stryd newydd Caernarfon 'yn wledd i'r llygad'

  • Cyhoeddwyd

Ddyddiau cyn i'r dref groesawu miloedd o ymwelwyr i'r wŷl fwyd flynyddol mae dau ddarn mawr o gelf stryd wedi eu dadorchuddio yng nghanol Caernarfon.

Fel rhan o brosiect cymunedol dan arweiniad Galeri Caernarfon, mae'r cynllun Canfas yn benllanw gwaith artistiaid o'r ardal sydd wedi bod yn gweithio gyda thrigolion lleol.

Bellach yn chwifio uwchben Stryd Llyn, sef un o brif strydoedd siopa'r dref, mae ffrinj 200 medr o hyd wedi ei wneud allan o ddefnyddiau glas wedi eu gwehyddu i rwyd.

Hefyd, i nodi'r ardal ble roedd Clwb Tan-y-Bont unwaith yn sefyll, mae darnau celf sydd wedi'u hysbrydoli gan y caneuon, yr albymau, a'r cerddorion a berfformiodd yno dros y blynyddoedd.

Yn ôl y trefnwyr y bwriad yw gwella edrychiad a chodi ansawdd amgylcheddol rhannau o'r dref drwy gyflwyno golau a lliw i ofodau sydd heb gael cymaint o sylw dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Y rhai fuodd yn gweithio ar ddyluniad Stryd Llyn oedd (o'r chwith) Lois Prys, Ann Catrin Evans, Pauline Williams a Iola Ynyr

Gweithiodd y dylunwyr Ann Catrin Evans a Lois Prys gyda dros 60 o blant ac oedolion lleol i greu’r darn sydd bellach yn amlwg ar Stryd Llyn.

Wedi ei ysbrydoli gan Afon Cadnant, mae hefyd yn manteisio ar y cysylltiadau hanesyddol â tecstilwyr oedd ar un adeg mor amlwg ar Stryd Llyn.

Dywedodd Ann Catrin Evans: "Mae'n cynrychioli'r Afon Cadnant, sy'n llifo o dan y dref i gyd, ti'n gweld o'n y pen acw ac mae'n dod allan yn Cei Fictoria i fewn i'r Fenai, ond dydi o ddim yn weledol yn y dref o gwbl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith celf, sy'n dynodi Afon Cadnant, bellach yn amlwg ar Stryd Llyn yng Nghaernarfon

"Felly 'da ni 'di dod a'r afon uwchben y ddaear uwchben Stryd y Llyn.

"Mae'n chwifio yn y gwynt yn neis a mae 'na symudiad ynddo fo 'run fath a fysa'r dŵr.

"Mae 'na tua naw gwahanol liw o las a gwyrddlas ac wedi ei wneud allan o ddefnydd sydd ddim am ddal dŵr, felly fydd o ddim yn gwlychu yn ofnadwy yn y glaw ac yn dal i chwythu yn y gwynt.

"Mae o wedi creu dipyn bach o liw yn y stryd."

Ffynhonnell y llun, Canfas/Galeri Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffrinj 200 medr o hyd wedi ei wneud allan o ddefnyddiau glas wedi eu gwehyddu i rwyd

Ychwanegodd Lois Prys: "Oedd brîff y prosiect i'w wneud gyda hanes y stryd, felly yn ogystal â'r ffaith fod yr afon yn rhedeg o dan Gaernarfon, naethon ni edrych yn ôl ar pa siopau oedd ar y stryd yma o'r blaen.

"Oedd na lwythi o siopau teilwra, defnydd, rhaffu a tecstiliau i gyd, ac oedd o i'w weld yn amlwg i drio cyfuno rhwyd a tecstiliau, felly dyna oedd y man cychwyn.

"Os ti'n edrych ar luniau o'r stryd hebddo rwan mae'n edrych yn llwyd, mae o di rhyw fath o ddod â'r ddwy ochr o'r stryd at ei gilydd rhywsut."

Disgrifiad o’r llun,

Iola Ynyr: "Yn amlwg mae gan bobl feddwl y byd o'r stryd"

Dywedodd Iola Ynyr, a fu'n helpu casglu hanes Stryd Llyn: "Wrth holi pobl am eu hatgofion, yn aml oeddan yn gweld pobl yn gloywi drwyddyn nhw wrth gofio'r bwrlwm oedd yn ran o'r stryd, y traffig a'r bysus, mae'n anodd dychmygu heddiw oedd 'na draffig yn mynd y ddwy ffordd.

"Yn aml mae pobl yn sbio lawr eu trwynau ar y stryd yma fel rhyw berthynas sydd â bach o gwilydd arno, ond yn amlwg mae gan bobl feddwl y byd o'r stryd."

Mae 'na hefyd godau QR mewn rhai o ffenstri siopau'r stryd, sy’n cysylltu i recordiadau o straeon ac atgofion pobl lleol o Stryd Llyn dros y blynyddoedd, dolen allanol.

Cafodd y recordiau hyn eu casglu gan brosiect cymunedol creadigol ‘Mwy’.

"Wrth i bobl fynd hefo'u ffôn a tynnu llun, mi glywan nhw gyfres o straeon yn cael eu lleisio ond yn ystod yr wŷl fwyd mi fydd hwnnw'n cael ei leisio bob hanner awr ar y stryd," ychwanegodd Iola.

'Collage sŵn o atgofion pobl'

Bu'r elusen Gisda, sy'n darparu cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc, yn arwain ar y gwaith ger hen safle Clwb Tan-y-Bont.

Cafodd y ganolfan ei sefydlu yn 1976 ond wedi ei hen ddymchwel, maes parcio Ffordd y Felin sydd yn sefyll yna erbyn hyn.

Fe ysbrydolwyd y darnau celf gan y caneuon, yr albymau, a'r cerddorion a berfformiodd yn y clwb a oedd yn rhan bwysig o'r Sîn Roc Gymraeg ar y pryd.

Cyn bo hir bydd hefyd arwydd golau LED anferthol ar ffurf tonnau sain.

Disgrifiad o’r llun,

Hedydd Ioan: "Mae wedi bod yn brilliant gweithio gyda'r bobl ifanc"

Bu Hedydd Ioan a Sarah Zyborska yn arwain ar greu fideo a thrac sain o synau hanesyddol Clwb Tan-y-bont, sydd bellach ar gael drwy godau QR yn yr ardal, dolen allanol.

"Mae wedi bod yn brilliant gweithio gyda'r bobl ifanc ar edrych nôl ar synau Caernarfon, hanes y clwb ond hefyd beth ydy Caernarfon heddiw," medd Hedydd Ioan.

"Edrych ar be mae pobl yn gofio o'r clwb, eu hatgofion nhw a'r caneuon o'r cyfnod hwnnw, ond hefyd beth mae'n swnio fel heddiw.

"Mae bron yn collage sŵn o atgofion pobl ond hefyd Caernarfon rwan."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Malan Fôn y bydd cerflun hefyd yn cael ei osod i nodi hanes cerddorol yr ardal

Malan Fôn oedd yn arwain y tîm creadigol ar ran Gisda, a dywedodd fod y syniadau wedi eu datblygu ar y cyd gyda phobl ifanc ynghlwm â'r elusen.

"Mae cerflun wedi ei greu o donffurf cerddoriaeth a fydd hwnnw yn mynd i fyny hefyd er mwyn talu teyrnged i hanes yr ardal."

'Mwynhau'r wledd i'r llygad'

Mae'r cynllun Canfas wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chynllun Trawsnewid Trefi Cyngor Gwynedd.

Dywedodd Alaw Llwyd Owen, rheolwr y prosiect, fod yr ymateb hyd yma wedi bod yn un cadarnhaol iawn wrth ddisgwyl degau o filoedd o ymwelwyr i'r dref y penwythnos hwn ar gyfer yr wŷl fwyd flynyddol.

"Gafon ni gyfle i ymchwilio lot a sgwrsio gyda'r gymuned am yr hanes a straeon a wedyn galwad agored i artistiaid gael cyfle i ymgeisio i greu'r gwaith gweledol," meddai.

"Mae [Gŵyl Fwyd Caernarfon] wedi disgyn yn eitha braf ac yn ffodus iawn allwn ni ddathlu a cael y cyfle i gydnabod y prosiect a gadael i bobl fwynhau'r gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Alaw Llwyd Owen: "Nid yn unig mae'n rhoi lliw, yn lythrennol, i furiau a strydoedd Caernarfon ond hefyd yn cefnogi'r busnesau'r dref yn economaidd"

"Fydd na hen ddigon o bobl o gwmpas y dref dydd Sadwrn gobeithio, mae'r wŷl wedi bod yn gefnogol iawn o'r prosiect hefyd drwyddi draw.

"Bydd hi'n lovely gweld pobl yn mwynhau'r wledd i'r llygad.

"Nid yn unig mae'n rhoi lliw, yn lythrennol, i furiau a strydoedd Caernarfon ond hefyd yn cefnogi'r busnesau'r dref yn economaidd.

"Mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel, sy'n galonogol ofnadwy ac yn dangos gwerth prosiect fel hyn, yn enwedig yr elfen gelfyddydol a'r gymuned hefyd.

"Mae na alw mawr amdano a dwi'n gobeithio fydd cyfleoedd yn dod allan o gam yma'r prosiect hefyd."

Pynciau cysylltiedig