'Y fyddin mor bwysig i ni yng Nghaernarfon' a Phenygroes
- Cyhoeddwyd
"Rwy' wrth fy modd cael bod yn y fyddin a dyna o'n i wastad isio 'neud ers yn fychan," medd Gethin Davies, 18, o Nebo ger Penygroes yn Nyffryn Nantlle.
"'Dw inna' hefyd yn cael pob math o brofiadau gyda'r Royal Logistic Corps a newydd gael dyrchafiad," medd Kieran Pritchard, 20 o Gaernarfon.
Daw eu sylwadau wrth i ffigyrau diweddaraf y Weinyddiaeth Amddiffyn ddangos bod ymuno â'r lluoedd arfog yn llai atyniadol nag y bu.
Yn 16 oed fe ymunodd Gethin â chatrawd y Cymry Brenhinol.
'Ddim wedi difaru o gwbl'
"Dwi ddim wedi difaru o gwbl. Yn sicr dwi wedi 'neud y penderfyniad iawn," meddai Gethin, a gollodd ei fam pan yn bump oed.
"Dwi'n meddwl bod y fyddin wedi sortio fi allan i ddeud y gwir.
"Ro'dd colli Mam yn ergyd ofnadwy i fi - a dwi wedi bod yn ffodus iawn o aelodau eraill o'r teulu sydd wedi edrych ar fy ôl i.
"Mae'r fyddin yn bwysig i ni yma ym Mhenygroes.
"Dwi'n cael profiadau da gyda'r Royal Welsh - pob math o brofiadau i ddweud y gwir.
"Mae yma ddisgyblaeth dda, dwi'n cael trin cerbydau, dwi'n cael teithio i wledydd eraill - dwi wedi bod yn Ffrainc a'r Almaen - a dwi hefyd yn cael 'neud lot fawr o chwaraeon."
'Plannu hadau heddwch'
Yn y gorffennol mae Comisiynydd Plant Cymru a gwleidyddion wedi bod yn galw ar y fyddin i beidio recriwtio pobl o dan 18 oed.
Y Deyrnas Unedig yw'r unig wlad yn Ewrop ac o fewn gwledydd NATO sy'n recriwtio pobl 16 i'w byddin, ac mae ffigyrau diweddar yn dangos bod un o bob pump sydd wedi ymuno â'r lluoedd arfog wedi gwneud hynny'n iau na 18.
Dywed Jane Harries, ymgyrchydd heddwch a chyd-drefnydd Cynhadledd Ysgolion Heddwch 2023 yn y Senedd yr wythnos hon, ei bod yn bwysig "plannu hadau heddwch" ymhlith y genhedlaeth iau a'u dysgu "bod modd delio â sefyllfaoedd heb drais".
Ychwanegodd ei bod hi'n holl bwysig bod y fyddin yn "dweud y gwir wrth ymweld ag ysgolion ynglŷn â beth yw gyrfa yn y fyddin".
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn nad oes unrhyw fwriad i godi oed recriwtio.
"Mae ymuno â'r lluoedd arfog yn wirfoddol ac mae'n rhaid i'r rhai o dan 18 gael llythyr sêl bendith gan rieni neu warcheidwad," meddai.
"Wedi iddyn nhw ymuno ry'n yn sicrhau eu bod yn cael pob gofal."
'Dim byd i 'neud rownd dre'
"Ches i ddim o fy ngwthio o gwbl i fynd i'r fyddin," ychwanegodd Gethin Davies wrth siarad â Cymru Fyw.
"Dyna o'n i isio 'neud. Fy uncle na'th roi'r syniad i fi ymuno ac mae rhai o ffrindia' fi hefyd wedi ymuno - pobl o'n i'n 'nabod drwy cadéts."
"Dyna o'n i isio 'neud hefyd," meddai Kieran Pritchard o Gaernarfon, a ymunodd â'r cadéts pan yn 13.
"Fyddai hi wedi bod yn rhyfedd iawn petawn i ddim wedi mynd i'r fyddin - fuodd taid a Dad yn y fyddin ac mae 'mrawd i yn y Navy.
"Dwi wedi cael pob math o brofiadau gyda'r Royal Logistic Corps - y llynedd fues i allan yn Estonia am saith mis yn sgil rhyfel Wcráin.
"Dwi rŵan wedi cael sawl trwydded gyrru cerbydau a newydd gael promotion i fod yn is-gorporal.
"Mae'r fyddin mor bwysig i ni hogia ifanc yn G'narfon. Do'dd na'm byd lot i fi 'neud rownd dre.
"Ma' taid yn caretaker yn y lle milwyr a dwi wedi tyfu lan yn gweld milwyr o gwmpas.
"Dwi yn y fyddin i 'neud job o waith - dwi'm yn un i sefyll o gwmpas."
Pabi gwyn a choch
Mae'n 90 mlynedd ers i'r pabi gwyn gael ei gyflwyno yn symbol heddwch, a dywed Cymdeithas y Cymod bod ei neges eleni yn bwysicach nag erioed "gyda'r hyn sy'n digwydd yn Ewrop, Affrica a'r Dwyrain Canol".
"Dwi'n gweld y pabi gwyn yn symbol o obaith i ni fel dynoliaeth, wrth goffáu holl ddioddefwyr rhyfel o bob gwlad," meddai Rhun Dafydd, cadeirydd Cymdeithas y Cymod.
"Mae'n pwysleisio erchyllterau gwrthdaro gan sicrhau ein bod ni'n ceisio'n gorau i beidio ailadrodd hanes."
Mae cwmni Gwasanaeth Bwyd Harlech, sydd â swyddfeydd yng Nghricieth a Merthyr, wedi penderfynu arddangos y pabi coch ar eu holl lorïau, a ddiwedd y mis fe fyddan nhw'n arwyddo Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yng nghastell Caernarfon.
"Mae hynny yn golygu llawer i fi," meddai un o'r staff, Daniel Jones o Lanystumdwy.
Fe dreuliodd e 14 mlynedd yn y fyddin, gan ymweld ag Afghanistan ddwywaith.
"Fe gollais i sawl cymrawd yn ystod ein hamser yn Afghanistan, ac uwch swyddog," meddai.
"Mae arddangos y pabi coch yn bwysig - mae'n cofio'r rhai sydd wedi colli eu bywydau ond hefyd aberth y rhai sydd wedi goroesi.
"Yn aml dyw rhywun ddim yn ymwybodol o frwydro mewnol y rhai sydd wedi dod adre. Mae nifer ohonom yn dal i ddioddef."
Am 11:00 ddydd Sadwrn, ar ddydd y cadoediad, bydd dwy funud o dawelwch ar draws Cymru, ac ar Sul y Cofio bydd degau o wasanaethau yn cael eu cynnal gan roi sylw arbennig eleni i'r brwydro yn y Dwyrain Canol.
"Mae Sul y Cofio yn bwysig iawn i ni. Fydda i wastad yn dod adre i Gaernarfon - a bydd taid, Dad, fy mrawd i a fi yn marcho - dyna un weekend fyddai'm yn planio dim byd," meddai Kieran Pritchard.
'Atgoffa ni o wastraff rhyfel'
Ychwanegodd Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor: "Mae Sul y Cofio yn ddyddiad pwysig yn ein calendr ni oll gan ei fod yn gyfle i goffáu pawb a laddwyd ac a ddioddefodd yn sgil pob rhyfel.
"Wrth gofio, mae'n ein atgoffa ni o wastraff rhyfel.
"Mae trawma rhyfel yn parhau am genedlaethau y tu hwnt i'r rhai a gollodd eu bywydau neu a ddioddefodd yn uniongyrchol yn sgil y trais.
"Mae'n ein atgoffa nad ydy rhyfel yn datrys anghytundeb ac mae dim ond trwy drafod gyda'n gilydd y gallwn ni ffeindio llwybr ymlaen.
"Mae'n atgyfnerthu y galw am heddwch a chymod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2023
- Cyhoeddwyd2 Awst 2023
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2023