Pedwar o bobl wedi eu hanafu yn dilyn ymosodiad gan gi

  • Published
Rhydlios
Image caption,

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn ardal Rhydlios yn Llŷn ychydig wedi 11:30 fore Gwener

Mae pedwar o bobl wedi eu hanafu yn dilyn ymosodiad gan gi yn ardal Pwllheli ddydd Gwener.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans yn dweud fod dau ohonynt yn cael triniaeth am anafiadau difrifol ac wedi eu cludo i ddau ysbyty gwahanol - ysbyty Stoke ac ysbyty Aintree ar Lannau Mersi.

Fe gafodd dau berson arall fân anafiadau yn y digwyddiad.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn ardal Rhydlios yn Llŷn ychydig wedi 11:30 fore Gwener yn dilyn adroddiadau o gi peryglus.

Mae'r heddlu wedi aros yn yr ardal ddydd Sadwrn tra bod ymholiadau pellach yn parhau.

'Sioc a phryder'

Mae'r ci wedi ei ddifa yn dilyn y digwyddiad, ac mae 37 o gŵn a nifer o gathod wedi eu casglu o'r cyfeiriad.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Sian Beck: "Rydym yn deall fod hwn yn ddigwyddiad pryderus i'r ardal, ond nid oes risg pellach i aelodau'r gymuned."

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Williams fod yna deimlad o "sioc a phryder" o fewn y gymuned.

"Fy mhrif bryder yw'r ffaith fod llwybr cyhoeddus yn agos i'r tŷ, ac mae teuluoedd yn byw yn agos."

Related Topics