Babi pum mis oed yn yr ysbyty wedi ymosodiad ci

  • Cyhoeddwyd
Y Cilgant, Penyrheol
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ym Mhenyrheol fore Sadwrn

Mae babi pum mis oed yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad gan gi yng Nghaerffili.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Penyrheol fore Sadwrn.

Fe gafodd y plentyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Dywed Heddlu Gwent bod anafiadau'r babi "ddim yn rhai sy'n peryglu bywyd".

Ychwanegodd eu bod "wedi atafaelu'r ci" a bod "dim anifeiliaid eraill" yn rhan o'r digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymholiadau'r heddlu yn parhau yn yr ardal yn ystod y dydd

Mewn datganiad, dywedodd y llu eu bod wedi cael eu galw i gyfeiriad ym Mhenyrheol tua 09:10 fore Sadwrn "yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ci".

Cafodd swyddogion heddlu a pharafeddygon y Gwasanaeth Ambiwlans eu hanfon i'r cyfeiriad.

Dywedodd y Prif Arolygydd Laura Bartley: "Bydd swyddogion yn gwneud rhagor o ymholiadau ac yn parhau yn y lleoliad wrth i'r ymholiad fynd yn ei flaen.

"Mae'n bosib y byddech chi'n gweld gweithgaredd heddlu yng Nghaerffili fel rhan o'r gwaith yma, ond does dim angen i chi ofidio.

"Os oes gyda chi bryderon neu wybodaeth, stopiwch i siarad gyda ni, os gwelwch yn dda."

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Jack Lis wedi i gi ymosodi arno yn ardal Penyrheol yn 2021

Mae'r digwyddiad yn dilyn dau ymosodiad arall gan gŵn yn ardal Penyrheol yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf - oll o fewn radiws o hanner milltir.

Bu farw bachgen 10 oed, Jack Lis ym mis Tachwedd 2021 wedi i gi o frîd XL Bully o'r enw Beast ymosod arno.

Cafodd Brandon Hayden, 19, ac Amy Salter, 29, ddedfrydau o garchar fis Mehefin y llynedd ar ôl pleidio'n euog i gyhuddiad o fod yng ngofal ci oedd yn beryglus allan o reolaeth.

Ym mis Rhagfyr bu farw Shirley Patrick, 83, yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad ci.

Clywodd gwrandawiad cwest cychwynnol bod marwolaeth y cyn-nyrs yn un "treisgar ac annaturiol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen edrych o'r newydd ar berchnogaeth cŵn, medd AS Caerffili Wayne David

Mae AS Caerffili, Wayne David wedi bod yn ymgyrchu i dynhau'r gyfraith mewn cysylltiad â chŵn peryglus.

Dywedodd ei fod "mewn sioc" yn dilyn yr achos diweddaraf yn ardal Penyrheol.

"Mae'n dangos bod angen cydnabod bod pob ci â'r potensial i fod yn beryglus, yn arbennig cŵn â chorffolaeth cryf," meddai.

"Rhaid trin cŵn fel hyn gyda gofal a phwyll mawr. Mae angen eu hyfforddi'n gywir. Mae'n ymwneud â pherchnogaeth cyfrifol. Ni ddylai plant allu mynd yn agos atyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ci a laddodd Jack Lis yn pwyso 96 pwys 5 owns (43.7 cilogram)

Ychwanegodd Mr David: "Y broblem fwy cyffredinol yw bod pob math o fridiau croes yn cael eu bridio am y rhesymau anghywir. Mae llawer yn anaddas i fod yn anifeiliaid anwes. Maen nhw'n cael ei bridio i fod yn dreisgar."

Pwysleisiodd nad yw'r "siŵr taw dyna'r achos yn fan hyn" wrth i'r ymchwiliad barhau i'r digwyddiad diweddaraf, ond bod angen edrych o'r newydd ar berchnogaeth cŵn.

"Rhaid sicrhau bod pob perchennog yn ymwybodol o'r hyn maen nhw'n ei wneud ... bod pobl yn cydnabod bod cadw ci fel hyn yn gyfrifoldeb mawr," meddai.

Mae'n ofni bod croes fridio'n gwneud hi'n rhy anodd i wahardd rhai bridiau.

"Bydde gyda chi restr o filoedd o fridiau," dywedodd. "Mae'r rheolau'n cael eu torri - mae'r mathau anghywir o gŵn yn cael eu bridio."

Pynciau cysylltiedig