Effaith trychineb Senghennydd ar bobl ac ardal
Wrth ymchwilio i hanes trychineb pwll glo Senghennydd yn 1913, aeth Gwenllian Glyn gyda'r Cynghorydd John Roberts o Gaerffili i holi Rhianydd Jones.
Roedd Mr Roberts wedi dod o hyd i gerdyn post gan un a oroesodd y trychineb i'w deulu yn Nhrawsfynydd - ynddo mae'r awdur, sef "Bob" yn dweud wrth ei deulu ei fod yn iawn ac yn son am eraill lwyddodd i ddianc.
Ymhlith y rheini oedd perthnasau i Mrs Jones, sy'n 89 oed ac wedi byw yn Senghennydd ar hyd ei hoes.
Bu Gwenllian wedyn yn holi Mrs Jones am ei hatgofion o'r cyfnod, ac am effaith y trychinebau ar y bobl ac ar yr ardal.
Dyma'r sgwrs rhwng y ddwy yn llawn.