Atgofion rhyfeddol trychineb Senghennydd ar gerdyn post

Mae hi bron yn ganrif erbyn hyn ers i dros 400 o bobl gael eu lladd mewn ffrwydrad ym mhwll glo Senghennydd ger Caerffili.

Dydd Iau fe fydd apêl yn dechrau er mwyn casglu arian i godi cofeb genedlaethol yn y pentref a fyddai'n cofio am y trychineb hwnnw a thrychinebau tebyg yng Nghymru.

Wrth ymchwilio i hanes y trychineb, fe ddaeth gohebydd y Post Cyntaf, Gwenllian Glyn, ar draws stori ryfeddol oedd yn ymwneud â cherdyn post arbennig.

Dyma be ddigwyddodd mewn sgwrs rhwng y cynghorydd sir lleol John Roberts a Rhianydd Jones, sy'n 89 oed, ac sydd wedi byw yn y pentref erioed.

  • Is-adran
  • Cyhoeddwyd