Lluniau: Caffis Eidalaidd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddiwedd cyfnod ym mhentref Gwauncaegurwen.
Ar ôl 112 o flynyddoedd o lenwi boliau trigolion Dyffryn Aman a Chwm Tawe, mae caffi Eidalaidd enwog Cresci's wedi cau ei ddrws am y tro olaf.
Mae'n batrwm cyson ar draws Cymru. Ar un adeg, roedd dros 300 o gaffis Eidalaidd yn gwasanaethu cymoedd y de, ond dim ond llond llaw o'r rhai gwreiddiol sydd ar ôl heddiw.
O ddiwedd y 19G tan ganol yr 20G daeth miloedd o Eidalwyr i Gymru i agor caffis, parlyrau hufen iâ a siopau sglodion. Ac ymhell cyn dyddiau Nero, Starbucks a Costa, roedd enwau fel Sidoli, Gambarini, Conti a Bracchi yn enwog ar draws ardaloedd diwydiannol y de.
Dyma gofnod, mewn lluniau, o'r bywyd a'r cymeriadau sy'n cadw'r traddodiad hwnnw yn fyw yn rhai o gaffis gwreiddiol Eidalaidd de Cymru.
Mwy o orielau lluniau ar Cymru Fyw: