Defnyddio'r Gymraeg mewn dadl seneddol am y tro cyntaf
Mae'r Gymraeg wedi cael ei defnyddio yn swyddogol am y tro cyntaf yn ystod dadl yn San Steffan.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns agor trafodaeth yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn Gymraeg, gyda'r cadeirydd Albert Owen hefyd yn cyflwyno'r drafodaeth yn yr iaith.
Cyn dydd Mercher, yr unig adeg roedd gan ASau hawl i siarad Cymraeg yng ngweithgareddau'r Senedd yn San Steffan oedd wrth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig gasglu tystiolaeth.