Defnyddio'r Gymraeg yn San Steffan am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymraeg wedi cael ei defnyddio mewn dadl seneddol yn San Steffan am y tro cyntaf ddydd Mercher.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns agor trafodaeth yr Uwch-Bwyllgor Cymreig yn Gymraeg, gyda'r cadeirydd Albert Owen hefyd yn cyflwyno'r drafodaeth yn yr iaith.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU y llynedd i ganiatáu defnyddio'r Gymraeg mewn trafodaethau seneddol.
Fe ddaeth y penderfyniad hynny yn dilyn adroddiad gan Bwyllgor Gweithdrefnau Tŷ'r Cyffredin oedd yn dweud nad oedden nhw'n gweld rhwystr technegol pam na ellid defnyddio'r Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg yn sesiynau'r Uwch-Bwyllgor Cymreig.
Mae cynnal gweithgareddau'r Uwch-Bwyllgor Cymreig yn ddwyieithog yn golygu y bydd modd defnyddio'r Gymraeg mewn dadleuon byr, wrth graffu ar ddeddfwriaeth ac wrth holi gweinidogion yn San Steffan.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cyn dydd Mercher, yr unig adeg roedd gan ASau yr hawl i siarad Cymraeg yng ngweithgareddau'r Senedd yn San Steffan oedd wrth i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig gasglu tystiolaeth.
"Rwy'n falch o fod yn siarad yr iaith y cefais fy magu ynddi," meddai Mr Cairns.
"Mae'r iaith yn bwysig iawn i mi, i fy nheulu ac i'r cymunedau mae Aelodau Seneddol Cymru yn eu cynrychioli, ac mae'n ganolog i hanes a diwylliant Cymru.
"Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i'r Senedd ac i Gymru ac rwy'n llongyfarch y pwyllgor sydd wedi ymgyrchu dros y newid hwn ers nifer o flynyddoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2017