Steffan Lewis: 'Fi'n gwybod bydd y siwrne'n un anodd'

Yr Aelod Cynulliad Steffan Lewis yn trafod ei frwydr gyda chanser y coluddyn, ar ôl cael diagnosis o'r afiechyd llynedd.

Dywedodd wrth raglen Wales Live fod ganddo "fynydd i'w ddringo" ond ei fod mewn "dwylo arbennig o dda" a bod ganddo "rwydwaith wych o gefnogaeth".

Ychwanegodd ei bod hi'n "iawn i deimlo ofn", a hynny wrth iddo barhau â'i driniaeth gyda chwrs 12 wythnos o gemotherapi.