Steffan Lewis AC yn dioddef o ganser 'pedwerydd cyfnod'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Aelod Cynulliad Steffan Lewis wedi cyhoeddi fod canser arno, gan ychwanegu ei fod yn "benderfynol o frwydro".
Mewn datganiad dywedodd Mr Lewis, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros ranbarth y de ddwyrain, ei fod wedi cael "y newyddion torcalonnus fod canlyniadau sgan CT yn dangos fod canser yn ei bedwerydd cyfnod arna i".
Ychwanegodd: "Er nad yw union natur y canser yn hysbys eto, mae wedi datblygu'n sylweddol.
"Rwyf i a fy nheulu yn parhau i ddod i delerau gyda'r newyddion ond rwy'n benderfynol o frwydro'r salwch a dod drwyddi."
'Penderfynol' o drechu'r salwch
Mae Mr Lewis, sy'n 33 oed, wedi bod yn Aelod Cynulliad ers iddo gael ei ethol ym mis Mai 2016. Mae'n byw yn y Coed-duon gyda'i wraig a'i fab.
Yn ei ddatganiad, ychwanegodd ei fod yn cael cefnogaeth anhygoel gan ei deulu, ei ffrindiau a chydweithwyr a diolchodd i staff Ysbyty Brenhinol Gwent am y gofal y maen nhw'n ei ddarparu.
"Byddaf yn cael profion pellach dros y dyddiau nesaf a bydd cynllun triniaeth yn cael ei baratoi i mi," meddai.
"Gwn fy mod yn y dwylo gorau posib i drechu'r salwch hwn ac rwy'n benderfynol o wneud hynny.
"Rwy'n gofyn nawr am breifatrwydd i mi a fy nheulu wrth i mi dderbyn triniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2016