'Cysylltwch â'r awdurdod os yn amau esgeulustod'

Mae mam yn wynebu cyfnod dan glo ar ôl i'r awdurdodau ddarganfod bod ei chartref mor fudr "doedd hi ddim yn addas i anifeiliaid fyw yno".

Daeth yr heddlu o hyd i ferch a bachgen bach yn byw mewn tŷ lle'r oedd ysgarthion ar y waliau, toiledau wedi eu blocio, powlenni yn llawn cynrhon ac ysbwriel ym mhobman.

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, mae'r achos yn un "difrifol iawn" a dywedodd bod hi'n bwysig i unrhyw un sydd yn poeni am les plentyn i gysylltu gyda'r awdurdodau lleol.