Carcharu mam am gadw plant mewn tŷ llawn budreddi

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caerdydd

Mae mam wedi ei charcharu ar ôl iddi gadw ei phlant mewn tŷ oedd mor fudr "doedd hi ddim yn addas i anifeiliaid fyw yno".

Cafodd bachgen a merch fach eu darganfod yn y tŷ ar ôl i gymydog ffonio'r RSPCA am ei bod yn pryderu bod y cartref yn anaddas ar gyfer y gath oedd yn byw yno.

Pan aeth yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol i'r tŷ fe ddaethon nhw o hyd i ysgarthion ar y waliau, toiledau wedi eu blocio, powlenni yn llawn cynrhon ac ysbwriel ym mhobman.

Doedd y gwres na'r dŵr ddim wedi ei ddefnyddio am naw mis a'r unig fwyd oedd can o sbageti.

Y gred yw bod y plant o ardal y Barri wedi bod yn byw mewn amodau o'r fath am fwy na dwy flynedd.

Y plant yn 'drewi'

Dywedodd yr erlynydd Ieuan Bennett fod y gweithiwr cymdeithasol wedi sylwi bod chwain cathod yno, dim dillad gwely a theganau wedi malu.

Casgliad archwiliad gan feddyg oedd bod y plant mewn "cyflwr corfforol cymharol".

Cafodd 165 o fagiau o ysbwriel eu cymryd o'r tŷ.

Disgrifiad,

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn dweud bod hi'n bwysig mynegi unrhyw bryder i'r awdurdod lleol

Roedd y plant wedi bod yn mynd i'r ysgol ond ddim am y cyfnod disgwyliedig.

"Roedd yr athrawon wedi dweud bod y plant yn troi fyny ddim yn gwisgo trôns na sanau, yn gwisgo dillad budr, yn edrych yn anniben ac yn drewi yn yr ysgol," meddai Mr Bennett.

Y fam yn edifar

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod y fam wedi ceisio lladd ei hun.

Dywedodd Kevin Seal, oedd yn amddiffyn, ei bod hi yn gwybod ei bod hi "wedi siomi" ei phlant.

"Hi yw'r cyntaf i gydnabod hynny. Fe wnaeth hi bledio'n euog ar y cyfle cyntaf posib a dyw hi erioed wedi ceisio beio unrhyw un arall am ei sefyllfa."

Roedd y fam meddai yn dioddef o iselder, wedi cael ei cham-drin yn blentyn a'r berthynas gyda thad y plant wedi dod i ben.

"Yn hytrach na cheisio cael help roedd hi wedi cywilyddio ac wrth i'r sefyllfa fynd yn waeth roedd hi'n cywilyddio fwy," meddai Mr Seal.

'Anghofio cyfrifoldebau'

Wrth ddedfrydu'r fenyw dywedodd y Barnwr Thomas Crowther QC bod yr achos mor ddifrifol ei bod yn wynebu cyfnod dan glo.

"Mae yna luniau sy'n disgrifio'r lle yn well nag allen ni fyth wneud," meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi "anghofio ei chyfrifoldebau" fel rhiant.

Wrth gydnabod bod y fenyw mewn sefyllfa anodd fel mam sengl dywedodd bod eraill hefyd mewn sefyllfaoedd enbyd.

"Does dim modd edrych ar y lluniau heb feddwl am y ddwy flynedd a hanner hynny pan ddylai'r ystafelloedd fod wedi bod yn llawn golau a chwerthin yn hytrach na'r olygfa o fudreddi rydyn ni'n gweld yn y lluniau."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd Bwrdd Diogelu Caerdydd a'r Fro nawr yn ystyried os dylai'r achos fod yn rhan o Adolygiad Ymarfer Plant.