Un-aelod-un-bleidlais 'ddim yn tanio dychymyg'

Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas yn dweud nad yw trafodaethau am systemau pleidleisio mewnol y blaid Lafur yn "tanio dychymyg" y cyhoedd.

Ddydd Sadwrn cafodd Carolyn Harris ei dewis fel dirprwy arweinydd newydd Llafur Cymru yn eu cynhadledd yn Llandudno.

Fe wnaeth Ms Harris ennill yr ornest ar ôl denu mwy o gefnogaeth gan ACau ac ASau, er bod ei gwrthwynebydd Julie Morgan wedi denu mwy o bleidleisiau gan yr aelodau cyffredin.