Carolyn Harris yn ddirprwy arweinydd newydd Llafur Cymru

  • Cyhoeddwyd
Carolyn Harris
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carolyn Harris ei hethol gan y coleg etholiadol oedd yn cynnwys ACau ac ASau, undebau llafur ac aelodau cyffredin

Mae Llafur Cymru wedi dewis Carolyn Harris ar gyfer rôl newydd dirprwy arweinydd yn eu cynhadledd yn Llandudno fore Sadwrn.

Fe wnaeth AS Dwyrain Abertawe drechu AC Gogledd Caerdydd, Julie Morgan yn yr ornest.

Mae rheolau'r blaid yn dweud y dylai'r dirprwy fod yn ddynes os mai dyn sy'n arwain.

Cafodd yr enillydd yn cael ei dewis drwy ddefnyddio coleg etholiadol y blaid, yn hytrach nag un bleidlais i bob aelod, lle mae pleidlais pawb yn gyfartal.

Fe wnaeth Ms Harris ennill yr ornest ar ôl denu mwy o gefnogaeth gan ACau ac ASau, er bod Ms Morgan wedi denu mwy o bleidleisiau gan yr aelodau cyffredin.

Ffynhonnell y llun, Labour
Disgrifiad o’r llun,

Julie Morgan gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau ymysg yr aelodau cyffredin

Mae'r mater wedi achosi rhwyg o fewn y blaid dros y rheolau ar gyfer cystadlaethau arweinyddiaeth a dirprwy arweinyddiaeth. Mae wedi rhannu cabinet Carwyn Jones, gyda galwadau i ddileu'r coleg etholiadol a mabwysiadu OMOV.

Dewisodd penaethiaid Llafur Cymru i gadw'r coleg y llynedd, er gwaethaf y ffaith ei fod eisoes wedi'i hepgor ar gyfer etholiadau arweinyddiaeth Llafur y DU a'r Alban.

Dywedodd Ms Harris wrth y gynhadledd y byddai'n "ymgyrchu ar bob achos sydd yn effeithio ar bobl y wlad" ac y byddai'n llais ar gyfer yr "holl aelodau".

"Mae gen i galon fawr a cheg fawr, ac rydych chi wedi ymddiried ynof fi i roi'r llwyfan mawr i chi. Byddai'n eich arwain chi wrth ymgyrchu," meddai.

Ychwanegodd: "I'r rheiny wnaeth bleidleisio dros Julie, mae angen i chi wybod y byddai'n gweithio drosoch chi hefyd."

Disgrifiad,

Huw Thomas: Un-aelod-un-bleidlais 'ddim yn tanio dychymyg'

Brynhawn Sadwrn bydd arweinydd y blaid, y Prif Weinidog Carwyn Jones, yn cyhoeddi adolygiad o sut fydd etholiadau o'r fath yn cael eu cynnal yn y dyfodol.

"Rydyn ni wastad wedi rhoi tegwch wrth galon beth rydyn ni'n ei wneud, gynhadledd, a byddwn ni'n adolygu sut mae'r blaid yn gweithio," mae disgwyl iddo ddweud.

"Bydd Adolygiad Democrataidd Llafur Cymru'n cyd-fynd â'n rhan ni ym mhroses bresennol Llafur y DU, a bydd yn adrodd i'r gynhadledd y flwyddyn nesaf - y gynhadledd fydd yn cael y gair olaf.

"Rydyn ni'n gwneud hyn fel bod gennym ni pob ffydd fod ein strwythurau'n deg, agored ac yn haeddiannol o'r aelodaeth eang sydd gan ein sefydliad bellach."

Bydd Mr Jones hefyd yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru'n ymestyn Cynllun Bwrsari'r gwasanaeth iechyd i gynnwys myfyrwyr sy'n dechrau eu cyrsiau'r flwyddyn nesaf.

"Y dewis Torïaidd yn Lloegr yw rhoi mynydd o ddyled i'n myfyrwyr sydd yn hyfforddi i fod yn nyrsys, bydwragedd a therapyddion, a llanast maen nhw wedi'i greu eu hunain yw hynny.

"Dwi'n falch ein bod ni yma yng Nghymru wedi cadw bwrsariaeth y GIG, ac wrth gadarnhau'r cynllun am flwyddyn arall byddwn ni'n parhau i ddenu'r goreuon a'u cynorthwyo nhw i aros yma yng Nghymru."

'Loes feddyliol'

Ond yn bwrw cysgod dros y cyfan mae llythyr gan gyfreithwyr yr AC Llafur, Jack Sargeant, oedd yn cyhuddo Carwyn Jones o achosi "loes feddyliol sylweddol" i'w deulu yn dilyn marwolaeth ei dad.

Cafodd Carl Sargeant ei ddarganfod yn farw ym mis Tachwedd, bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo o'r cabinet yn dilyn honiadau o sylw diangen a chyffwrdd amhriodol a wnaed yn ei erbyn. Roedd yn gwadu'r cyhuddiadau.

Bydd ymchwiliad i sut wnaeth Mr Jones yn ymdrin â Mr Sargeant yn cael ei arwain gan Paul Bowen QC, ond nid yw wedi dechrau eto.

Pan ofynnwyd i Mr Jones a oedd yn credu fod ei weithredoedd wedi achosi gofid, dywedodd y prif weinidog wrth BBC Cymru nad oedd "ei weld fel hynny".

"Beth dwi'n credu sy'n bwysig dros ben yw fod pethau yn dechrau, dwi moyn gweld pethe'n dechrau, alla'i 'weud 'na, a dwi'n siŵr fyddan nhw eisiau gweld hwnna hefyd," meddai.