Morgan: 'Sylw falle fory' ar arweinyddiaeth Llafur

Mae Eluned Morgan wedi dweud y bydd yn "gwneud sylw falle fory" ynglŷn â'i bwriad i sefyll am arweinyddiaeth Llafur Cymru ai peidio.

Roedd Gweinidog y Gymraeg ar BBC Radio Cymru fore Iau yn siarad am ddatblygiadau technoleg sy'n defnyddio'r Gymraeg, pan gafodd ei holi a oedd hi'n bwriadu sefyll i olynu Carwyn Jones.

Dywedodd y byddai'n "meddwl am y peth", gan ychwanegu wrth BBC Cymru yn ddiweddarach y byddai'n "gwneud sylw falle fory".

Mae Mark Drakeford eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu sefyll i fod yn arweinydd, ond mae rhai o fewn y blaid wedi galw am sicrhau fod "cystadleuaeth" am y swydd.