Cymru Arloesol: Arddangos y dechnoleg Gymraeg ddiweddaraf

  • Cyhoeddwyd
IpadFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y datblygiadau diweddaraf ym maes technoleg a'r Gymraeg yn cael eu harddangos mewn digwyddiad arbennig o'r enw Cymru Arloesol yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Pwrpas yr arddangosfa yw hybu technoleg sy'n defnyddio'r Gymraeg a chynyddu defnydd y Gymraeg o ddydd i ddydd.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys lansio profiad rhithwir, sy'n helpu'r defnyddwyr i ddeall sut beth yw byw â dementia, a hynny yn uniaith Gymraeg.

Bydd y gyflwynwraig Beti George, sydd hefyd yn ymgyrchydd dementia blaenllaw, yn rhannu peth o'i phrofiadau personol yn y lansiad.

Dyma rai o'r technolegau eraill a fydd yn cael eu harddangos yn y sioe:

  • Ap Cwtsh - ap cyfrwng Cymraeg ar ofal a lles.

  • WordNet Cymraeg - prosiect i greu WordNet (cronfa ddata geiriau) ar gyfer y Gymraeg.

  • Mapio Cymru - fersiwn Gymraeg o OpenStreetMap a fydd yn galluogi i Gymru gael ei mapio yn Gymraeg, a hynny o dan drwydded agored.

  • Bys a Bawd - adnodd ryngweithiol i deuluoedd a phant, ar sail caneuon.

  • Wici Caerdydd - Ymgyrch i gynyddu nifer yr erthyglau Cymraeg sydd ar Wikipedia.

  • Prosiect i hybu defnyddio'r Gymraeg drwy Snapchat.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei chynnal yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd.

Mae'r holl dechnoleg wedi cael ei hariannu gan Grant Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy'n un o brif elfennau Strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr.