Lluniau: Dydd Gwener Eisteddfod yr Urdd 2018
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddiwrnod y Coroni yn Eisteddfod yr Urdd Maesyfed a Brycheiniog 2018.
Daeth y glaw ond wnaeth hynny ddim stopio'r torfeydd rhag heidio i'r maes yn Llanelwedd.

Sioned Erin Hughes o Ben Llŷn yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd 2018, ond oherwydd salwch roedd hi'n absennol o'r seremoni ddydd Gwener. Cafodd ei stori fer 'Du a Gwyn' ganmoliaeth arbennig gyda'r beirniaid Catrin Beard a Lleucu Roberts.

Derbyniwyd y goron ar ran Erin yn y seremoni, gan yr Athro Gerwyn Williams o Brifysgol Bangor, wnaeth ei hysbrydoli i gystadlu eleni.

Daeth cawod drom o law ben bore, wrth i'r cystadleuwyr a'u teuluoedd gyrraedd y maes

Ymbarels a chotiau glaw oedd i'w gweld ymhobman, cyn i'r glaw gilio ac i'r haul dorri trwyddo

Mae angen help Mam a Dad ar Catrin o Aelwyd yr Ynys, Ynys Môn, gyda'r delyn ar ôl dod o'r llwyfan yn rhagbrawf Unawd Telyn bl. 10 a dan 19

Yr actor Richard Lynch, sy'n chwarae rhan Garry Monk ar Pobol y Cwm, ydy Llywydd y Dydd yn yr Eisteddfod ddydd Gwener

Dewi a'i fam Fflur yn mwynhau'r haul, wedi teithio am y dydd o Gaerffili i'r Eisteddfod

Heblaw eich bod chi'n cystadlu ar y llwyfan, chewch chi ddim mynd heibio Ffion Haf a Jordan. Maen nhw'n gweithio gefn llwyfan trwy'r wythnos, a dyma'r ddau wyneb olaf y mae'r cystadleuwyr yn eu cyfarfod cyn mynd trwy'r twnel at y llwyfan

Gobeithio fod y map wedi helpu'r cystadleuydd yma i ffeindio ei rhagbrawf - mae'r cello yna'n edrych yn drwm!

Efallai nad oes yna wartheg yng nghylch y gwartheg yr wythnos hon, fel sydd yna wythnos y Sioe Frenhinol, ond mae'n lle braf a thawel i fwynhau cinio

Efa, Bleddyn ac Esyllt yn mwynhau'r ffair
Mwy o'r Urdd: