Enillydd Coron yr Urdd yn absennol oherwydd salwch

  • Cyhoeddwyd
erin

Mae enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd eleni, Sioned Erin Hughes, wedi methu mynychu'r seremoni oherwydd salwch.

Brynhawn Gwener fe gyhoeddodd y beirniaid mai Erin, 20 oed o Ben Llŷn, oedd yn fuddugol ym mhrif gystadleuaeth y dydd.

Daeth i'r brig yn y gystadleuaeth eleni dan y ffugenw 'Melyn' wrth ysgrifennu darn neu ddarnau o ryddiaith ar y thema 'Terfysg'.

Cafodd ei stori fer 'Du a Gwyn' ganmoliaeth arbennig, gyda'r beirniaid Catrin Beard a Lleucu Roberts yn ei chanmol am "gynnal cysondeb safon drwyddi draw".

Salwch

"Llwydda Melyn i daro'r darllenydd yn ei dalcen gyda'r disgrifiadau o ymweliadau Du, ac mae dyfodiad telynegol Gwyn fel y lloer i oleuo'r noson dywyll yn drawiadol," meddai'r beirniaid.

"Ceir yr un safon yn yr ail stori, Dau Aderyn, sy'n sôn am fab a'i fam yn gwylio dyn yn neidio o un o'r ddau dŵr a ddisgynnodd yn Efrog Newydd."

Ychwanegodd meistr y ddefod, Elin Havard, o'r llwyfan: "Mae hon wedi bod yn ddefod wahanol, ond yr un yw'r clod i'r enillydd.

"A phan fydd Erin wedi gwella, fe fydd yr Urdd yn trefnu seremoni yn y dyfodol er mwyn ei hanrhydeddu."

Clywodd y gynulleidfa fod Erin yn gwylio'r seremoni gartref gydag aelodau o'i theulu, gan nad oedd hi'n gallu teithio i Lanelwedd oherwydd y cyflwr prin mae'n dioddef ohono.

Dymuniad Erin oedd fod y seremoni yn cyfeirio at y cyflwr, Myasthenia Gravis.

Heb y driniaeth a'r cyffuriau cywir nid yw Erin yn gallu gwneud pethau sylfaenol fel gwenu, siarad, cnoi, llyncu, cynnal ei phen, agor ei llygaid na chwaith defnyddio ei dwylo, breichiau, coesau nac yn gallu anadlu ar ei phen ei hun.

Ers diwedd y llynedd mae cyffuriau wedi colli eu heffaith ac mae ei chyflwr dros y tri mis diwethaf wedi gwaethygu, ond mae hi nawr yn derbyn triniaeth gyda chyffuriau newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Gerwyn Williams o Brifysgol Bangor yn derbyn y Goron ar ran Erin

Fe wnaeth yr Athro Gerwyn Williams, wnaeth ei hysbrydoli i gystadlu eleni, dderbyn y wobr ar ei rhan.

"Do'n i ddim yn disgwyl y byddwn i yma heddiw, ond dwi'n sobr sobr o falch dros Erin a'r hyn mae hi wedi ei gyflawni oedd yn gamp arbennig iawn," meddai'r Athro Williams.

Ychwanegodd: "Mae yna neges yma ynglŷn â dal ar gyfle. Mae penderfyniad Erin, ac mae yna uchelgais ynddo hi, ac fe ddaliodd ar y cyfle i sgwennu'r gwaith yna pan oedd hi mewn gwell iechyd haf diwethaf.

"Mae'r ail ddarn yn ymwneud ag iselder ysbryd a'r teitl ydi 'Du a gwyn' a dyna ydi'r du yn y teitl, mae'n cyfeirio at iselder ysbryd.

"Roedd hi'n sgwennu hwn pan oedd ei hysbryd yn isel oherwydd y salwch, felly mae yna beth tynnu ar brofiad ei hun.

"Ond mae yna ychwanegu hefyd a rhaid pwysleisio hyn. Mae yna elfen gref o ddychymyg ac mae'n esiampl i unrhyw lenor llwyddiannus, sef y gallu i allu tynnu ar brofiadau personol ond hefyd gallu trin gyda dos helaeth o ddychymyg wrth wneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Catrin Beard yn traddodi ei beirniadaeth

Cafodd Erin, 20, ei haddysg yn Ysgol Pont-y-Gof, Ysgol Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor, ac mae bellach yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio Cymraeg a Chymdeithaseg.

Mae'n byw yng Ngheidio, yn ardal Boduan ger Pwllheli, ac yn un o bump o blant.

Er nad oedd Erin yn bresennol yn y seremoni, yno yn gwylio oedd ei nain a thaid.

Dywedodd nain Erin, Margaret Hughes fod y teulu mor falch ohoni,

"Roedd yn brofiad o falchder arbennig o dan amgylchiadau dipyn yn anodd i ni fel teulu ond da ni dal yn hynod hynod falch o Erin ac mae hi'n gryf ac eisiau gwneud yn dda ac mae'n llwyddo i wneud hynny,

"De' ni wedi siarad gyda'r beirniaid ac maen nhw mor falch o'u gwaith hi ac mi fydd hynny'n braf iawn i Erin glywed."

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Mared Roberts, ac yn drydydd oedd Iestyn Tyne.