Elfyn Llwyd: Plaid Cymru 'angen newid y tîm'

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi galw am newid cyfeiriad ac arweinyddiaeth y blaid.

Mae Elfyn Llwyd, cyn-Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yn dweud bod y blaid wedi "sefyll yn ei hunfan" ers dros bum mlynedd.

Ychwanegodd mai "ychydig iawn sydd wedi ei gyflawni" gan y blaid dros y blynyddoedd diwethaf, a'i bod yn amser "newid y tîm".

Daw ei sylwadau ar gyfnod allweddol i Blaid Cymru, wythnos cyn y dyddiad cau i herio Leanne Wood am yr arweinyddiaeth.

Daw'r clip o raglen Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri - cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C - fydd yn cael ei darlledu nos Fawrth am 21:30.