Elfyn Llwyd: Amser 'newid tîm' Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Elfyn Llwyd bod Plaid Cymru angen "strategaeth ffres" ac "apêl o'r newydd". Clip o Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri - cynhyrchiad ITV Cymru - S4C nos Fawrth, 21:30

Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi galw am newid cyfeiriad ac arweinyddiaeth y blaid.

Mae Elfyn Llwyd, cyn-Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yn dweud bod y blaid wedi "sefyll yn ein hunfan" ers dros bum mlynedd.

Ychwanegodd mai "ychydig iawn sydd wedi ei gyflawni" gan y blaid dros y blynyddoedd diwethaf, a'i bod yn amser "newid y tîm".

Mae Plaid Cymru wedi wfftio sylwadau Mr Llwyd, gan ddweud eu bod "wedi gwneud cynnydd arwyddocaol yn y blynyddoedd diwethaf".

'Rhywbeth o'i le'

Daw'r feirniadaeth ar gyfnod allweddol i Blaid Cymru, wythnos cyn y dyddiad cau i herio Leanne Wood am yr arweinyddiaeth.

Fe wnaeth Mr Llwyd ei sylwadau mewn cyfweliad gyda Guto Harri i gyfres newydd o bodlediadau ar gyfer Radio Cymru - Pryd o Drafod.

Cafodd y podlediad cyntaf ei gyhoeddi ddydd Mawrth ac mae modd gwrando arni ar wefan Radio Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Leanne Wood wedi croesawu her i'w harweinyddiaeth

"'Dan ni wedi sefyll yn ein hunfan ers pump i saith mlynedd bellach ac o bosib mae hynny'n awgrymu ei bod yn amser newid y tîm," meddai Mr Llwyd.

"Mae'n sefyll i reswm i mi, os nad ydych chi'n symud 'mlaen ar ôl y cyfnod hynny, bod rhywbeth o'i le."

'Digon o dalent'

Pan ofynnwyd iddo gan Mr Harri a oes rhywun gwell na Ms Wood i redeg y blaid, dywedodd Mr Llwyd bod "digon o dalent yng Nghaerdydd - does dim dwywaith am hynny".

Mae canghennau Plaid Cymru mewn dwy etholaeth eisoes wedi galw ar eu haelodau Cynulliad lleol i herio Ms Wood am arweinyddiaeth y blaid.

Mae aelodau cangen y blaid yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi enwebu Adam Price, tra bo cangen Ynys Môn wedi cefnogi Rhun ap Iorwerth.

Mae tri AC y blaid - Llŷr Gruffydd, Sian Gwenllian ac Elin Jones - hefyd wedi arwyddo llythyr yn galw am gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth.

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Aled ap Dafydd

"Do not be tribal whatever you do." Dyna'r cyngor roddodd Elfyn Llwyd i unrhyw ddarpar wleidydd yn ei gyfweliad ffarwel gyda'r Telegraph yn 2015.

Gyda hynny mewn cof mae'n gam mawr i alw am newid ar y brig. Ag yntau 'nôl yn fargyfreithiwr, fydd Elfyn Llwyd ddim mor gaeth ag eraill pan ddaw hi i leisio barn.

Oes, mae tri aelod Cynulliad wedi galw am ornest, ac mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud ar Twitter ei fod yn ystyried sefyll.

Ond does yr un aelod Cynulliad na seneddol presennol nac o'r gorffennol wedi mynd mor bell ag Elfyn Llwyd.

Mae dau reswm posib - byddai straen amlwg i berthynas proffesiynol unrhyw un fyddai'n beirniadu'r arweinydd presennol pe bai hi'n mynd ymlaen i ennill gornest, ac efallai bod rhai'n amau a fydd gornest o gwbl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae canghennau'r blaid eisiau i Adam Price a Rhun ap Iorwerth ymgeisio am yr arweinyddiaeth

Ychwanegodd Mr Llwyd y byddai cystadleuaeth am yr arweinyddiaeth yn gyfle da i drafod cyfeiriad y blaid.

"Efallai ei bod hi'n amser cael trafodaethau difrifol," meddai.

"'Da ni wedi sefyll yn ein hunfan am bump i saith mlynedd, a dydi hynny ddim yn sefyllfa iach i fod ynddi."

'Cynnydd arwyddocaol'

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Ymhell o sefyll yn yr unfan mae Plaid Cymru wedi gwneud cynnydd arwyddocaol yn y blynyddoedd diwethaf.

"Yn etholiad y Cynulliad 2016, cipiodd Leanne Wood y Rhondda o afael Llafur, ac yn etholiadau llywodraeth leol 2017 daeth y blaid o fewn tair sedd i'w nifer uchaf erioed o gynghorwyr gan dorri tir newydd mewn sawl ardal.

"Yn etholiad brys San Steffan dan amgylchiadau hynod heriol ble'r oedd y ddadl gyhoeddus wedi ei pholareiddio rhwng y pleidiau Prydeinig, cipiodd Blaid Cymru etholaeth Ceredigion gan y Democratiaid Rhyddfrydol a gwrthsefyll bygythiad y Blaid Lafur yn ei hanterth yn Arfon."

Mae'r ffenestr sy'n caniatáu ceisiadau i herio am arweinyddiaeth pleidiau yn y Cynulliad yn cau ar 4 Gorffennaf.