'Prinder cyfleusterau': Teithio tair awr i chwarae bowls

Mae ymgyrchwyr yn honni fod prinder cyfleusterau ac offer yn atal pobl anabl ledled Cymru rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Dywedodd yr ymgyrchwyr bod gormod o ffocws ar geisio dod o hyd i Baralympwyr a bod hynny ar draul darparu cymorth yn lleol.

Mae Gordon Harries, sy'n 53 oed ac yn ddall, yn cwblhau siwrnai o dros dair awr er mwyn chwarae bowls.

Mae'n teithio o Giliau Aeron yng Ngheredigion i Abertawe i fynychu sesiynau'r clwb i ddeillion yn Llandarsi, a gall wneud y daith hyd at deirgwaith yr wythnos.