Prinder cyfleusterau yn atal pobl anabl, medd ymgyrchwyr

  • Cyhoeddwyd
Bowls

Mae ymgyrchwyr yn honni fod prinder cyfleusterau ac offer yn atal pobl anabl ledled Cymru rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Dywedodd yr ymgyrchwyr bod gormod o ffocws ar geisio dod o hyd i Baralympwyr a bod hynny ar draul darparu cymorth yn lleol.

Daw'r sylwadau ar ôl i arolwg gan Chwaraeon Cymru yn gynharach eleni awgrymu bod pobl yn credu bod mynediad i chwaraeon i bobl anabl yn "anghyson iawn".

Yn ôl Chwaraeon Anabledd Cymru maen nhw wedi derbyn adborth sy'n rhoi "stori gadarnhaol" a bod cyfleoedd i bobl anabl yn cynyddu flwyddyn ar flwyddyn.

Disgrifiad,

Mae Gordon Harries yn teithio o Giliau Aeron i Abertawe er mwyn chwarae bowls

Mae Gordon Harries, sy'n 53 oed ac yn ddall, yn cwblhau siwrnai o dros dair awr er mwyn chwarae bowls.

Mae'n teithio o Giliau Aeron yng Ngheredigion i Abertawe i fynychu sesiynau'r clwb i bobl ddall yn Llandarsi.

"Mae'r bws yn pigo fi lan ar y sgwâr yng Nghiliau Aeron marce 08:30, wedyn dwi'n dal y bws i fynd i ddal y trên yng Nghaerfyrddin, ac os ar amser yn gadael am byti 10:05, mynd lawr i Abertawe, mewn i dacsi yn Abertawe a draw i'r stadiwm i 'whare.

"Ac wedyn yr un peth ar y ffordd nôl... a chyrraedd adre marce 17:30 y nos."

Mae'n teithio hyd at deirgwaith yr wythnos yn ystod y gaeaf.

"Mae e'n galed yn y gaeaf achos mae'n dywyll, a hefyd ar y bws ar y ffordd nôl dwi ddim yn gwybod ble ydw i, felly dwi'n dibynnu ar y dreifwr."

Aeth Gordon yn ddall yn ei 20iau hwyr ac yn gweithio fel plymwr i Gyngor Ceredigion.

Collodd e olwg ymylol mewn un llygad ac aeth ei lygad arall yn hollol ddall.

Cafodd ei ail hyfforddi i weithio mewn swyddfa ond roedd y sgrin yn achosi pen tost iddo ac roedd rhaid iddo ymddeol.

Bowls yw ei angerdd bellach, ond y clwb agosaf sydd â chyfleusterau digonol yw Abertawe.

"Be sy'n hyfryd ambyti Abertawe yw mai byti dwsin o ni yn yr haf yn whare, a ni gyd â rhyw fath o broblem golwg, felly ni yn yr un sefyllfa a ni'n dod 'mlaen yn dda o achos hynny, a phob un yn rhoi hwb i'r llall."

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddodd Chwaraeon Cymru adborth gan tua 600 o bobl fydd yn gyfrifol am arwain eu gweledigaeth ar gyfer chwaraeon y dyfodol.

Mae'r adborth yn dweud bod "mynediad i chwaraeon i blant anabl ac oedolion i'w canfod yn anghyson mewn nifer o ardaloedd ac ar draws nifer o gampau... gydag ystafelloedd newid hygyrch a mynediad uniongyrchol i'r cyfleuster chwaraeon yn aml yn brin".

Roedd yr adborth hefyd yn dweud bod "y ddarpariaeth o chwaraeon anabl yn aml wedi'i ddylunio tuag at gystadleuaeth, gyda llai o gymorth i... 'weithgareddau corfforol cyffredinol'."

Mae Mr Harries yn dweud ei fod yn cytuno bod angen gwneud mwy.

Ffynhonnell y llun, Disability Sports Humber
Disgrifiad o’r llun,

A oes gormod yn cael ei dargedu tuag at gystadleuaeth?

"Mae'n siomedig iawn... os o'n i ddim wedi gweld y gemau yn yr Alban chwe blynedd yn ôl, byddwn i ddim yn gwybod bod clwb i'r dall i gael," meddai.

"Yn fy marn i s'dim digon o wybodaeth mas yna a dyna lle wy'n gobeithio alla i helpu, byddai'n mynd mas a dweud wrtho bobl beth sydd i gael a beth allen ni neud i helpu.

"Does dim cyfleusterau, mae Ceredigion, yn anffodus, blynydde tu ôl i bawb arall.

"Dwi wedi dechrau, neu wedi rhoi fy mys yn y dŵr i drial dechrau clwb i'r anabl yn Aberaeron.

"I ni'n gobeithio dechrau rhywbeth fel i ni'n gallu rhoi siawns i bobl Sir Ceredigion heb orfod trafeili yr holl ffordd lawr i Abertawe."

Yn ôl Chwaraeon Anabledd Cymru, maen nhw'n croesawu safbwyntiau sydd yn caniatáu iddyn nhw wneud "newidiadau er gwell".

'Prif ffocws'

Yn ôl Gerwyn Owen, rheolwr perfformiad yr elusen, mae digon o gyfleoedd ar gael i bobl sydd ag anableddau drwy Gymru gyfan.

"'Da ni yn Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydweithio efo chwaraeon i sicrhau bod yna cynnig cynhwysol," meddai.

"Mae 'na 1.7 miliwn o gyfleoedd i bobl ag anableddau i gymryd rhan, mae 'na dros 7,000 o aelodau mewn clybiau, mae 'na dros 350 o glybiau sydd yn gynhwysol.

"Yr her ydy i dyfu hynna... trwy gydweithio, a dyna'r prif bwynt sydd angen ei wneud, bod ni angen cydweithio gyda'n partneriaethau ni."

Mae Mr Owen yn gwadu bod gormod o ffocws ar hyn o bryd ar ddod o hyd i Baralympwyr yn hytrach na ddarparu cymorth yn lleol.

"Mae 70% o'n harian ni yn mynd tuag at y gymuned, a hynna ydi'r prif ffocws," meddai.

"Ac wrth gwrs pan mae 'na cyn gymaint o bobl, dros 7,000 o bobl yn cymryd rhan mewn clybiau, wrth gwrs 'da ni'n mynd i dargedu.

"A dyna fy ngwaith i ar yr ochr perfformiad, ydy targedu'r unigolion yna i fynd ymlaen i berfformio i Gymru ac i Brydain."