Taith ar hyd Llwybr Gwyrdd y Sioe Fawr

Mae "Llwybr Gwyrdd" ymysg un o'r datblygiadau diogelwch newydd a fydd yn rhan o'r Sioe Fawr eleni.

Bydd arwyddion amlwg ac olion traed gwyrdd ar lawr ar hyd y llwybr o Lanfair-ym-Muallt i faes y Sioe Fawr, Fferm a Maes Gwersylla Penmaenau a Phentref Pobl Ifanc CFfI.

Roedd y llwybr arbennig yn un o'r syniadau ar restr o argymhellion gan grŵp diogelwch cafodd ei sefydlu yn dilyn marwolaeth James Corfield y llynedd.

Bydd map o'r llwybr gwyrdd a gwybodaeth am yr ardal ar gael ar ap y Sioe Fawr.