Cwest James Corfield yn dyfarnu marwolaeth trwy ddamwain
- Cyhoeddwyd
Mae crwner wedi dyfarnu bod dyn ifanc o Sir Drefaldwyn wedi marw trwy ddamwain yn ystod y Sioe Frenhinol y llynedd.
Clywodd y cwest i farwolaeth James Corfield yn y Trallwng, ei fod fwy na thebyg wedi marw o sioc sydyn ar ôl mynd i ddŵr oer ar noson gynta'r sioe ym mis Gorffennaf.
Cafwyd hyd i gorff y dyn 19 oed yn afon Gwy bum niwrnod ar ôl iddo fynd ar goll.
Clywodd y cwest fod Mr Corfield wedi bod yn yfed ym Mar yr Aelodau tan 22:00 nos Lun 24 Gorffennaf cyn mynd i dafarn yn nhref Llanfair ym Muallt.
Gadawodd y dafarn ar ei ben ei hun ychydig cyn hanner nos. Cafodd ei weld ar gamera CCTV yn cerdded i ffwrdd o fysus mini oedd yn cludo pobl i'r pentref ieuenctid, ac yn mynd i gyfeiriad yr afon.
'Sioc y dŵr oer'
Mewn tystiolaeth dywedodd rhai o'i ffrindiau ei fod yn feddw iawn ar y pryd, ond dywedodd eraill ei fod wedi meddwi ond yn dal i fod mewn rheolaeth.
Clywodd y cwest gan yr Arolygydd Andrew Pitt oedd yn gyfrifol am yr ymdrech i ddod o hyd i Mr Corfield.
Dywedodd ef ei fod yn credu i'r llanc fynd i'r afon er mwyn ceisio ei chroesi a chyrraedd y pentref ieuenctid.
Dywedodd yr Arolygydd Pitt fod yr afon yn fas iawn wrth y glannau ond bod pwll dwfn - tua phedwar metr o ddyfnder - rai llathenni o'r lan.
Cafwyd hyd i gorff James 80 metr i lawr yr afon o leoliad y pwll dwfn.
Ond wrth roi ei gasgliad dwedodd y Crwner Andrew Barkley fod damcaniaeth yr heddlu yn bosibl ond ddim yn debygol ar sail y dystiolaeth.
Roedd mam James - Louise Corfield - wedi dweud mewn datganiad na fyddai ei mab wedi mynd i'r dŵr o'i wirfodd.
Dywedodd y crwner ei bod hi'n fwy tebygol bod James wedi baglu neu wedi llithro wrth gerdded ger yr afon ac wedi cwympo i'r dŵr felly.
Oherwydd hynny fe gofnododd gasgliad fod James Corfield wedi marw trwy ddamwain.
Ychwanegodd ei fod yn deall anfodlonrwydd teulu Mr Corfield gyda'r diffyg sicrwydd o ran sut yn union yr aeth i'r afon, ond nad oedd y dystiolaeth yn cynnig sicrwydd.
Pwysleisiodd hefyd nad oedd unrhyw dystiolaeth fod unrhyw un arall wedi bod â rhan ym marwolaeth Mr Corfield.
O ran achos y farwolaeth clywodd y cwest gan y patholegydd Dr Richard Jones, a ddywedodd nad oedd James Corfield wedi boddi ond yn hytrach ei fod wedi marw yn ôl pob tebyg oherwydd effeithiau sioc sydyn o fynd i ddŵr oer.
Ar ôl y cwest, mewn datganiad a ddarllenwyd gan eu cyfreithiwr Paul Inns, fe wnaeth rhieni James dalu teyrnged i'w mab a sôn am eu colled enfawr.
Fe ddywedon nhw hefyd fod angen sicrhau bod y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn ddigwyddiad lle gall pobl ifanc fynd i fwynhau mewn diogelwch.
Dywedodd y teulu eu bod yn cydweithio gyda threfnwyr y sioe, a chyrff eraill yn Llanelwedd a Llanfair ym Muallt, er mwyn gwneud y sioe yn lle mwy diogel i bawb.
Dywedon nhw fod materion diogelwch sydd angen sylw brys wedi'u hadnabod eisoes, ac y byddai camau'n cael eu cymryd i wella diogelwch erbyn mis Gorffennaf eleni.
Mae BBC Cymru wedi gwneud cais i'r Sioe Frenhinol am ymateb i sylwadau teulu Mr Corfield.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd18 Awst 2017
- Cyhoeddwyd8 Awst 2017
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2017