'Dyletswydd' i sicrhau bod pob plentyn yn ddiogel

Mae Helen Mary Jones wedi galw am sefydlu cofrestr statudol yng Nghymru - yn hytrach na'r un wirfoddol bresennol - o blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, i sicrhau nad ydyn nhw'n "anweledig" i'r awdurdodau ac yn syrthio drwy'r rhwyd.

Daw galwad personol AC Plaid Cymru ar ôl i bâr priod yn y gorllewin gael eu carcharu am gam-drin eu merch ifanc yn rhywiol dros gyfnod o flynyddoedd - cam-driniaeth oedd yn anweledig i'r awdurdodau gan fod ei rhieni yn ei hatal rhag gadael y cartref a mynd i'r ysgol.

Mae'r elusen NSPCC a Chomisiynydd Plant Cymru hefyd yn galw am gamau i amddiffyn lles plant sy'n cael eu haddysg gartref.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod bwriad i ymgynghori ynghylch gorfodi awdurdodau lleol i sefydlu cronfa ddata o blant sydd ddim ar gofrestr ysgol.