Galw am gael cofrestr o blant sy'n cael addysg gartref
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad wedi galw am sefydlu cofrestr statudol yng Nghymru o blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref i sicrhau nad ydyn nhw'n "anweledig" i'r awdurdodau ac yn syrthio drwy'r rhwyd.
Daw galwad Helen Mary Jones ar ôl i rieni merch yng ngorllewin Cymru gael eu carcharu am ei cham-drin dros gyfnod o flynyddoedd.
Mae elusen yr NSPCC a Chomisiynydd Plant Cymru hefyd yn galw am gamau i amddiffyn lles plant sy'n cael eu haddysg gartref.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod bwriad i ymgynghori ynghylch gorfodi awdurdodau lleol i sefydlu cronfa ddata o blant sydd ddim ar gofrestr ysgol. Mae'n bosib i rieni gofrestru eu plant yn wirfoddol.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, cafodd pâr priod - na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol - ddedfrydau hir o garchar am gam-drin eu merch yn rhywiol dros gyfnod o flynyddoedd.
Cafodd dyn yn ei 50au ddedfryd o garchar am oes ar ôl pledio'n euog i 16 o gyhuddiadau o dreisio ac ymosod yn rhywiol.
Bydd yn rhaid i'w wraig, sydd yn ei 20au, dreulio 10 mlynedd dan glo wedi i'r llys ei chael yn euog o 11 o gyhuddiadau o ymosod yn rhywiol ar y ferch ac o'i hesgeuluso.
Roedd y ferch yn cael ei haddysgu gartref ac yn cael ei hatal rhag gadael ei chartref, ac roedd ei sefyllfa felly'n anweledig i'r awdurdodau.
'Dyletswydd fel cymuned'
Mae Ms Jones yn amddiffyn hawl rhieni i addysgu eu plant gartref, ac yn pwysleisio bod y rhan fwyaf yn cael gofal, hyfforddiant ac addysg dda mewn awyrgylch o'r fath.
Ond mae AC Plaid Cymru Gorllewin a Chanolbarth Cymru wedi galw mewn rhinwedd personol am weithredu yn sgil yr achos diweddar ac achosion eraill.
Cafodd galwadau tebyg eu gwneud wedi marwolaeth bachgen o Eglwyswrw, Dylan Seabridge o sgyrfi yn 2011, oedd hefyd ddim yn mynd i ysgol.
"Rhieni ddyle gael y prif ddweud, os liciwch chi, o gwmpas sut mae'u plant yn cael eu trin, ond mae gyda ni ddyletswydd fel cymuned," meddai Ms Jones.
"Dylen ni sicrhau fel cymuned bod ni'n gwybod ble mae pob plentyn a ni'n gwybod bod nhw'n saff."
Ychwanegodd mai'r awdurdodau lleol ddylai weithredu cofrestr o'r fath, a bod dim angen am waith papur di-ben-draw.
'Hawl i fod yn ddiogel'
Mae elusen flaenllaw hefyd yn dweud bod creu cofrestr orfodol ar gyfer plant sy'n derbyn eu haddysg gartre "yn gwbl hanfodol".
Dywedodd yr NSPCC eu bod yn poeni ynglŷn â pha mor hawdd y gallai plentyn ddod yn anweledig i awdurdodau lleol, gan golli'r hawl sydd gan blant eraill i fod yn ddiogel.
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland hefyd yn awyddus i sicrhau mwy o hawliau statudol i blant sy'n cael eu haddysgu gartref er mwyn amddiffyn eu lles.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn bwriadu ymgynghori ynglŷn â'r syniad o'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sefydlu cronfa ddata o blant sydd ddim ar gofrestr ysgol.
Mae hi hefyd yn adolygu a diweddaru'r ffordd y mae gweithwyr gwasanaethau cymdeithasol ac addysg yn cyd-weithio a rhannu gwybodaeth "er mwyn sicrhau bod plant sy'n cael eu haddysg gartref yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2016