Lluniau: Gwaith dylunio arloesol pobl ifanc Cymru

  • Cyhoeddwyd

Cynhaliwyd Arddangosfa Gwobrau Arloesedd flynyddol Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru a Llywodraeth Cymru ar 1-2 Hydref yn Stadiwm SWALEC, Caerdydd. Bydd yr arddangosfa hefyd i'w weld yn Pontio, Bangor ar Hydref 22 a 23 (drwy gymorth adran Dylunio Cynnyrch Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor).

Mae'r Gwobrau Arloesedd yn gystadleuaeth a gynlluniwyd i annog pobl ifanc yng Nghymru i fod yn dechnegol arloesol ac i werthfawrogi pwysigrwydd dylunio a thechnoleg.

Mae'r arddangosfa yn dangos y gwaith prosiect mwyaf gwreiddiol gan fyfyrwyr TGAU, UG a Safon Uwch sy'n astudio Dylunio a Thechnoleg, ac fel pob blwyddyn roedd y safon yn uchel tu hwnt!

David Johnson o Goleg Dewi Sant, Caerdydd, sydd wedi creu rhain i helpu pobl anabl i fedru gafael a defnyddio cwpanau.

Mae Lisa Evans o Ysgol Bro Pedr, Llambed, nid yn unig wedi cynllunio'r ffrog, ond wedi defnyddio laser i dorri'r deunydd i'r siapiau cywrain angenrheidiol.

Dyma brosiect TGAU Mollie Williams-Hughes o Ysgol y Creuddyn, sef gêm fwrdd o'r enw Dangan Ronpa.

Dyluniodd Mollie y rheolau a'r bocs hefyd.

Mae cwningen Archie Baxter o Ysgol y Gadeirlan yn byw mewn moethusrwydd ar ôl i Archie gynllunio'r cwt arbennig yma ar gyfer ei brosiect TGAU.

Mae Elizabeth Lewis o Ysgol Morgan Llwyd wedi troi ei sylw at gynllunio tŷ fforddiadwy ar gyfer ei phrosiect Lefel Uwch.

Mae'r cynllun yn defnyddio chwech blwch cludo (shipping containers) sydd yn cyrraedd y safle adeiladu ar gefn lori. Gallan nhw gael eu gosod at ei gilydd i greu tŷ mewn amser byr iawn ac am gost isel.

Mae model Seren Hopkins o Ysgol Uwchradd Pontypridd o dŷ draenog wedi ei seilio ar dŷ'r Hobbits o lyfr The Lord of The Rings...

...ac mae cynlluniau Seren yr un mor gywrain â'r model.

Cafodd Iwan Tomos o Ysgol Gyfun Gŵyr ei ysbrydoli gan ei ddiddordeb mewn rhwyfo i gynllunio'r peiriant rhwyfo pren yma.

Mae wedi'i gynllunio o ddeunydd rhad sef pren haenog (plywood) wedi'i wasgu fel fod y peiriant yn medru cael ei werthu fel flatpack.

Mae Libby Weeks o Ysgol Stanwell, Penarth, wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar y cynlluniau papur ac yna creu'r dillad gorffenedig allan o ledr... deunydd sydd yn anodd iawn i'w wnïo mae'n debyg...

Mae'r manylder mae Libby wedi ei gyflawni yn wirioneddol anhygoel!

Mae teclyn bach Luke Williams, o Ysgol Coedcae, Llanelli, jest beth sydd ei angen arnoch ar gyfer parti yn yr ardd. Mae'n rhoi golau, yn chwarae cerddoriaeth ac yn gweini diod!

Mae prosiect UG Harri Tulliver o Ysgol Brynrefail, Llanrug, yn cynnwys cynlluniau a modelau ar gyfer nifer o declynnau sydd yn helpu pobl anabl i gyflawni tasgiau pob dydd fel torri â siswrn ac agor caniau a photeli.

Mab ffarm yw Harri Evans o Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst, ac felly dyna pam ei fod wedi cynllunio teclyn cludadwy aml-bwrpas i helpu'r broses wyna.

Dim ond detholiad bach o dros 80 o ddarnau o waith yw'r lluniau uchod... Mae dyfodol Cymru wir yn arloesol!

Hefyd o ddiddordeb:

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol