Gwellt plastig: Ysgol yn 'gwneud y pethau bychan'
Mae'r defnydd o wellt plastig o fewn y sector gyhoeddus wedi cynyddu yn sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau.
Awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am ysgolion Cymru, yw rhai o ddefnyddwyr mwyaf gwellt plastig, ond mae un ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi penderfynu peidio ei defnyddio.
Mae disgyblion Ysgol y Wern hefyd wedi cyflwyno deiseb i'r Cynulliad yn galw am waharddiad tebyg mewn ysgolion ledled y wlad.