Defnydd o wellt plastig wedi cynyddu yn sylweddol

  • Cyhoeddwyd
GwelltFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r defnydd o wellt plastig o fewn y sector cyhoeddus wedi cynyddu yn sylweddol dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau ddaeth i law'r BBC.

Gofynnodd y BBC i 57 sefydliad - gan gynnwys byrddau iechyd, cynghorau ac ysgolion - faint o wellt oedden nhw wedi ei brynu yn ystod y cyfnod, a chafodd mwy na 3.7m eu prynu gan y 34 a ymatebodd.

Dangosodd data'r 21 corff a ymatebodd yn llawn fod cynnydd o 48% mewn pryniant gwellt plastig, o 450,400 yn 2013/14 i 763,591 y llynedd.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio gwellt plastig bellach, ac maen nhw'n "cydweithio â chyrff cyhoeddus i leihau'r defnydd o blastigion un tro".

Daw'r ffigyrau hyn wrth i'r galw am ddefnydd gwellt papur gynyddu, yn dilyn rhaglen ddogfen y BBC, Blue Planet II, a amlygodd effaith plastig ar ein moroedd.

Transcend Packaging, cwmni o Gaerffili, oedd un o'r cwmnïau cyntaf i gynhyrchu gwellt papur yn y DU am ddegawdau.

Yn gynharach eleni fe enillodd y cwmni gytundeb gyda McDonalds, i gyflenwi'r cwmni â gwellt papur wrth iddyn nhw geisio lleihau eu defnydd o blastig.

Disgrifiad,

Disgyblion Ysgol y Wern yn egluro pam eu bod yn galw am wahardd gwellt plastig mewn ysgolion

Dywedodd cyfarwyddwr marchnata Transcend Packaging, Mark Varney, y gallai gwellt papur fod yn opsiwn arall i gyrff cyhoeddus Cymru, gan nodi efallai na fyddai'n addas ar gyfer ysbytai a sefydliadau sy'n trin unigolion ag anableddau.

"Gall wellt plastig fod yn yr amgylchedd am 200-300 mlynedd, tra bod y rhai papur sydd gennym ni yma yn gallu compostio o fewn tri mis," meddai.

"Mae gwelliannau mawr wedi bod mewn gwellt papur dros y blynyddoedd, ac mae'r profiad o yfed nawr yn debyg iawn i hynny sydd i'w gael â gwellt plastig."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Owen Williams, disgybl o Ysgol y Wern, "y dylai plant ysgol gael llais"

Awdurdodau lleol, sy'n gyfrifol am ysgolion Cymru, yw rhai o ddefnyddwyr mwyaf gwellt plastig, ond mae un ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi penderfynu peidio â defnyddio gwellt plastig ac wedi cyflwyno deiseb i'r Cynulliad yn galw am waharddiad mewn ysgolion ledled y wlad.

Dywedodd Owen Williams, disgybl blwyddyn chwech yn Ysgol y Wern: "Dylai plant ysgol gael llais.

"Ein byd ni fydd e cyn bo hir, felly pan ni'n tyfu lan ni eisiau byd da i fyw ynddo, ac i'n plant ni, rydyn ni eisiau byd da iddyn nhw," meddai.

Yn ôl Karen Williams, sy'n athrawes yn yr ysgol, mae'r gwaharddiad yn arbed rhoi 285 gwelltyn yn y sbwriel bob diwrnod ysgol.

"Dros wythnos neu flwyddyn mae hynny'n nifer enfawr o wellt yn cael eu taflu," meddai, "roedd y disgyblion yn teimlo'n gryf y byddai gwneud rhywbeth syml fel hyn yn cael effaith mwy yn y pen draw, a byddai pobl, natur a bywyd y môr yn elwa."

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n amser i Lywodraeth Cymru weithredu, yn ôl Rhun ap Iorwerth

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, AC Ynys Môn, fod deiseb y disgyblion wedi cael ei drafod ac roedd o nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i "wneud rhywbeth gwirioneddol".

"Yn y gorffennol rydyn ni wedi gweithredu ar fagiau plastig er enghraifft... ac fe arweiniodd hynny at newid yn ymddygiad pobl," meddai.

"Gallwn wneud yr un peth gyda gwellt plastig a phlastigion un tro eraill, torri tir newydd a dangos i eraill be sy'n bosib i'w gyflawni."

Ym mis Ebrill, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n croesawu cydweithio â Llywodraeth y DU i wahardd gwellt plastig a ffyn cotwm ar hyd y DU.

Nid oedd Hannah Blythyn, Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, yn fodlon cael ei chyfweld, ond mewn datganiad dywedodd fod Cymru yn "arwain ar ailgylchu domestig yn y DU".

'Newid syml'

Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Sophie Howe ei bod "eisiau gweld pob un o'r 44 corff cyhoeddus yn gwneud newid syml yn eu polisi caffael yn cynnwys prynu gwellt papur".

"Does yna ddim un rheswm pam na all cyrff cyhoeddus wneud y newid syml hwn yn gyflym a fydd yn helpu i gyfrannu at y nodau llesiant ac yn adlewyrchu'r diwylliant sy'n newid, yr ydym yn ei weld yn ein cymunedau lleol," meddai.

"Mae grwpiau lleol megis Beautiful Barry a disgyblion yn Ysgol y Wern yn dangos sut mae gwneud y fath newid syml yn helpu i frwydro yn erbyn effeithiau niweidiol plastig ar iechyd ein pobl a'n planed."