Barnu 'ymosodiadau' ar staff gwleidyddion ar-lein
Mae staff sy'n gweithio i aelodau cynulliad a seneddol Cymru yn dweud eu bod nhw'n teimlo dan fygythiad am dderbyn sylwadau sarhaus ar-lein.
Dywedodd dau weithiwr wrth raglen Sunday Politic Wales y BBC bod rhai o'r bygythiadau maen nhw'n eu derbyn ar Twitter a Facebook yn gallu effeithio arnyn nhw yn eu swyddi o ddydd i ddydd.
Yn ôl Liz Saville Roberts AS, mae "ymosodiadau" ar-lein ar staff a swyddogion gwleidyddion yn gwneud iddi "[g]westiynu y math o gymdeithas 'da ni'n byw ynddi hi".