Staff gwleidyddion yn derbyn 'bygythiadau' ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae staff sy'n gweithio i aelodau cynulliad a seneddol Cymru yn dweud eu bod nhw'n teimlo dan fygythiad am iddyn nhw dderbyn sylwadau sarhaus ar-lein.
Dywedodd dau weithiwr wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC bod rhai o'r bygythiadau maen nhw'n eu derbyn ar Twitter a Facebook yn gallu effeithio arnyn nhw yn eu swyddi o ddydd i ddydd.
"'Dych chi'n cael eich galw'n bob enw dan haul, eich bod chi'n dda i ddim, a ddim yn gwneud eich gwaith," meddai Alun Roberts, sy'n edrych ar ôl cyfryngau cymdeithasol ASau Plaid Cymru, Hywel Williams a Liz Saville Roberts.
Dywedodd Twitter a Facebook eu bod nhw'n gweithio'n galed i daclo'r broblem.
Sgwennu 'scum' ar ffenest swyddfa
Yn ôl Mr Roberts, cafodd ei fygwth ar-lein am "gamu mewn i amddiffyn" ei aelod seneddol ar Facebook.
"Y munud nesa', dwi'n cael neges bersonol i fy inbox, yn dweud y byddai'r person yn dod lawr i'r swyddfa etholaeth i fy sortio i allan," meddai.
"Ar y pryd nes i ddim ei gymryd fel bygythiad uniongyrchol, ond pan 'dych chi'n meddwl am y peth, mi oedd o."
Mae Llŷr Powell yn gweithio i'r AC annibynnol, Mandy Jones a chyn hynny, i gyn-arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill.
"Dwi'n meddwl taw'r peth gwaethaf yw bod pobl yn dweud 'dwi'n gwybod ble mae dy swyddfa di'. Yr iaith 'ma bod nhw'n dod lawr atoch chi'n gorfforol.
"'Dyn ni wedi cael 'scum' wedi'i ysgrifennu ar y ffenest... mae rhai yn hoffi anfon negeseuon uniongyrchol."
Dywedodd Mr Roberts a Mr Powell bod mwy o ymwybyddiaeth a chefnogaeth i staff o ran aflonyddu ar-lein ers marwolaeth yr aelod seneddol Jo Cox yn 2016.
Yn ôl Liz Saville Roberts AS, mae "ymosodiadau" ar-lein ar staff a swyddogion gwleidyddion yn gwneud iddi "[g]westiynu y math o gymdeithas 'da ni'n byw ynddi hi".