Lluniau: Eisteddfod Ffermwyr Ifanc 2018
- Cyhoeddwyd
Cafodd Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru ei chynnal ym Mro Morgannwg am y tro cyntaf ddydd Sadwrn, 17 Mai 2018 gyda Cheredigion yn cipio'r marciau uchaf.
Dyma flas o'r diwrnod yng nghanolfan gelfyddydau'r Memo yn y Barri a oedd, yn ôl cyfrif Twitter yr eisteddfod, dolen allanol, wedi denu sgowts o raglen Britain's Got Talent!

Aelodau llawen o Glwb Llanwenog

Clwb Eglwyswrw wedi cyrraedd

Merched yn gwneud eu gwalltiau: Beca Dafydd a Mian Siôn o glwb Dyffryn Madog

Mae cystadlu'n waith llwglyd! Pizza gefn llwyfan i'r ddwy chwaer Non a Lois Williams o Glwb Bodedern

Dawnswyr o Glwb Brycheiniog: Emily, Bella, Sophie a Kiera

Iago Evans o glwb Abergwaun yn paratoi i fynd i wneud stand-yp ar y llwyfan

Rhybudd!

Teulu o siarcod o Glwb Bodedern, Môn

Ieuan Jones a Lliwen Jones gasglodd y tlws Meimio i Gân ar ran Clwb Bro Ddyfi

Y beirniaid yn brysur wrth eu gwaith

Lleucu Arfon o Glwb Cwmtirmynach oedd yn cystadlu ar yr Unawd dan 21

Amy Thomas a Dan Wood o Glwb Sir Benfro'n edrych yn drawiadol i'r gystadleuaeth dawns gyfoes

Daeth Parti Cerdd Dant Maesywaen, Meirionnydd, yn ail

Gwylio'r cystadlu'n eiddgar yn y cyntedd

Cododd Megan Elenid Lewis ar ei thraed fel enillydd y dwbl - y goron a'r gadair

Daw Megan Lewis o Geredigion ac enillodd ei gweithiau buddugol y ddwy brif wobr lenyddol yn Eisteddfod CFfI y sir honno hefyd yn gynharach fis Tachwedd

Un o'r beirniaid oedd y newyddiadurwr a'r gyflwynwraig Catrin Haf Jones

Daeth grŵp o Nantyglyn, Clwyd, yn ail ar y gân gyfoes

Luned Davies o Glwb Gastell-nedd - aelod o bwyllgor trefnu'r Eisteddfod hon - yn edrych yn hapus gyda'r trefniadau
Lluniau: Sioned Birchall
Hefyd o ddiddordeb: