Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na gystadlu brŵd yn Llandudno ar ddydd Sadwrn 18 Tachwedd yn Eisteddfod flynyddol y Ffermwyr Ifanc.
Dyma rai o uchafbwyntiau'r diwrnod trwy lens y ffotograffydd Iolo Penri:

Barod amdani!

Paratoi am briodas yng nghefn y llwyfan

Hwdi rhain?

Ffermwyr Ifanc hen a'u ffrindiau!

Nain yn cloncian eto. Fydd y siwmper 'na byth yn barod erbyn 'Dolig!

Mae'n siwr bod y ffrog yna yn ffasiynol pan oedd nain yn aelod o'r Ffermwyr Ifanc

Anni Llŷn oedd yn cyflwyno'r noson ar S4C. Ei mam oedd Llywydd yr Eisteddfod

Clwb Eryri oedd yn croesawu'r Eisteddfod eleni.

Nos Sadwrn arferol yn Llandudno!

Chwaraewyr Cymru mewn poen ar ôl y canlyniad siomedig yn erbyn Georgia?

Un ymarfer bach arall...

Merched glandeg Cwmtirmynach ar eu ffordd i'r llwyfan

Dewis, dewis! Pa un sy'n mynd da'r ffrog 'ma?

Rhannwch y jôc

'Chydig o golur cyn camu i'r llwyfan

Y llenorion buddugol. Naomi Nicholas, Penfro enillodd y Goron a Llywela Edwards, Clwyd enillodd y Gadair

Nos da Llandudno!
