Darpariaeth anabl 'anghyson' i lochesi merched

Mae Gwyneth Williams sy'n rheolwr ar wasanaeth cefnogol symudol yn y gymuned yn galw ar gymdeithasau i gydweithio mewn cyfnod o wasgfa ariannol.

Daw hynny wrth i ffigyrau ddangos fod y ddarpariaeth ar gyfer pobl anabl mewn llochesi merched yng Nghymru yn anghyson.

Yn ôl Ms Williams: "Efallai nad ydy darpariaeth y llochesi ddim yn addas, ond does 'na ddim byd yn rhwystro ni rhag gweithio efo cymdeithasau tai i fod yn darparu'r gefnogaeth yn yr eiddo yma sy'n addas ar eu cyfer nhw.

"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod mwy craff yn y ffordd 'dan ni'n gweithio a dwi'n meddwl mai cyd weithio ydy'r ateb ar gyfer y dyfodol hefyd.