Diffyg llochesi merched i'r anabl yn 'peryglu bywydau'
- Cyhoeddwyd
Anghyson yw'r ddarpariaeth i'r anabl mewn llochesi i ferched ar draws Cymru, gydag un ystafell neu lai ar gael mewn rhai ardaloedd, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law'r BBC.
Tua 30% o'r 157 o ystafelloedd mewn llochesi yng Nghymru sy'n addas ar gyfer pobl ag anableddau.
Yn ôl Cymorth i Ferched Cymru, mae'r sefyllfa yn un sy'n peryglu bywydau.
Tra bod pedair lloches yng Ngwynedd a Môn, er enghraifft, dim ond ym Môn yr oedd y ddarpariaeth yn addas i bobl anabl.
'Colli cyfle arbennig'
Dywedodd Gwyneth Williams, rheolwr Gwasanaethau Gorwel, sef gwasanaeth cefnogol symudol yn y gymuned, bod "cydweithio gyda gwasanaethau eraill" yn hollbwysig mewn cyfnod o wasgfa ariannol.
"Yng Ngwynedd mae nifer o'r adeiladau sydd wedi bod o gwmpas ers sawl blwyddyn a ddim yn addas i gael eu hadnewyddu, ond mae'r llochesi ym Môn yn newydd ac wedi cael eu hadeiladu yn bwrpasol.
"Ar y funud 'dan ni'n colli cyfle arbennig, mae 'na fuddsoddiad wedi mynd fewn drwy gymdeithas y tai i gael tai gofal ychwanegol.
"Yng Ngwynedd fel enghraifft, mae 'na un yn y Bala, un yn Nhremadog a'r llall ym Mangor.
"Efallai nad ydy darpariaeth y llochesi yn addas, ond does 'na ddim byd yn rhwystro ni rhag gweithio 'efo cymdeithasau tai i fod yn darparu'r gefnogaeth yn yr eiddo yma sy'n addas ar eu cyfer nhw.
"Dwi'n meddwl bod rhaid i ni fod mwy craff yn y ffordd 'dan ni'n gweithio a dwi'n meddwl mai cydweithio ydy'r ateb ar gyfer y dyfodol hefyd."
Fe wnaeth 14 allan o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ymateb i'r cais am wybodaeth.
Mae pob un o lochesau Sir Gâr (cyfanswm o 15) gyda mynediad i bobl anabl;
10% yn unig o'r rhai yn Sir Ddinbych sydd â mynediad;
Yn ôl y ffigyrau mae nifer yr achosion o drais yn y cartref wedi cynyddu 23% ers 2013/14;
Mae gwariant cynghorau ar lochesau trais yn y cartref hefyd wedi gostwng ychydig yn yr un cyfnod.
Yn ôl Gwendolyn Sterk o Gymorth i Ferched Cymru, mae'n hanfodol fod y mynediad i lochesau yn addas ar gyfer merched anabl.
"Os nad yw'r llefydd yma ar gael pan mae'r ddynes ei eisiau, fe allai effeithio ar ei bywyd, ac fe allai fod yn angheuol," meddai.
Fe wnaeth y cyfartaledd o ferched oedd yn aros mewn lloches am fwy na chwe mis bron a dyblu o 58 (5%) yn 2016/17, i 102 (9%) yn 2017/18.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod prinder llety ar gyfer y rhai sy'n gadael llochesau, ond bod awdurdodau lleol a'u partneriaid yn gweithio i oresgyn hyn drwy gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2018