Cyhuddo'r heddlu o 'dargedu' pobl ddigartref

Mae'r heddlu wedi gwadu eu bod yn targedu pobl ddigartref yn Abertawe fel rhan o ymdrech i lanhau'r strydoedd.

Daw'r sylwadau ar ôl i wirfoddolwyr sy'n rhoi cymorth i'r digartref yn y ddinas honni bod agwedd yr heddlu wedi caledu dros y misoedd diwethaf.

Yn ôl Heddlu De Cymru mae'n rhaid iddyn nhw gydbwyso diogelwch pobl ddigartref a hawl y cyhoedd i fynd i'r ddinas heb gael eu poeni a'u bygwth.

Ond mae Ben Price, sydd wedi bod yn ddigartref ers bron i ddwy flynedd, yn dweud ei fod yn teimlo bod yr heddlu'n "targedu" pobl ddigartref yn y ddinas.