Heddlu'n trin y digartref yn Abertawe 'fel llygod mawr'

  • Cyhoeddwyd
Digartref

Mae'r heddlu wedi gwadu eu bod yn targedu pobl ddigartref yn Abertawe fel rhan o ymdrech i lanhau'r strydoedd.

Daw'r sylwadau ar ôl i wirfoddolwyr sy'n rhoi cymorth i'r digartref yn y ddinas honni bod agwedd yr heddlu wedi caledu dros y misoedd diwethaf.

Mae un dyn digartref wedi dweud wrth y Post Cyntaf bod yr heddlu yn ei drin ef a phobl eraill digartref "fel llygod mawr".

Yn ôl Heddlu De Cymru mae'n rhaid iddyn nhw gydbwyso diogelwch pobl ddigartref a hawl y cyhoedd i fynd i'r ddinas heb gael eu poeni a'u bygwth.

'Cuddio yn y llwyni'

Pob wythnos mae criw o wirfoddolwyr yn mynd allan gyda'r nos i roi cymorth i bobl ddigartref yng nghanol Abertawe.

Maen nhw'n darparu te, coffi, bwyd a chysur i bobl sy'n cysgu ar strydoedd y ddinas, ond yn ôl y gwirfoddolwyr mae'r gwaith wedi mynd yn llawer anoddach yn ddiweddar.

Dywedodd John Davies: "Deufis yn ôl, roedden ni'n gwybod yn union lle'r oedd y digartref i gyd yn Abertawe. Erbyn hyn, maen nhw ar wasgar, maen nhw'n cuddio yn y llwyni, yn y parciau, neu maen nhw yn y carchar felly mae e lawer anoddach.

"Mae rhai wedi cael eu gwahardd o'r dre', mae un ddynes wedi cael ei gwahardd o 'ma am flwyddyn o leiaf."

Stori Ben a Rhian

Disgrifiad,

Mae Ben Price yn cyhuddo'r heddlu o "dargedu" pobl ddigartref

Mae Ben a Rhian wedi bod yn byw ar strydoedd Abertawe ers bron i ddwy flynedd.

Roedd Ben yn arfer byw a gweithio yn Rhydaman, ond ar ôl iddo golli ei swydd, a methu ymdopi a thalu'r 'dreth ystafell wely', nid oedd yn gallu talu rhent mwyach.

Yn ôl Ben, mae'r heddlu wedi mynd yn llawer mwy llym gydag ef a'i bartner yn ddiweddar.

"Mae e wedi bod yn anodd iawn... rili anodd... mae'r police fod yna i helpu ti, 'so nhw 'di helpu fi o gwbl," meddai Ben.

"Unrhyw amser fi'n eistedd lawr mae'n nhw fyna yn stopo fi basically. Fi'n gwybod bod problem gyda beggars a mae lot o bobl yn mynd mas i beggo a so nhw'n homeless t'mod, a ma hwnna'n broblem.

"Ie mynd ar ôl rheina fel maen nhw wedi, ond dim pobl sy'n homeless, sy'n cael e'n galed anyway, a maen nhw'n neud e'n mwy a mwy galed i'r pwynt so ti'n gallu hyd yn oed cael bwyd t'mod achos does dim modd cael bwyd."

"Maen nhw'n trin ni mwy fel rats fi'n credu, street rats. 'So nhw moyn ni fan hyn."

Agwedd yr heddlu 'wedi newid'

Yn ôl un o'r gwirfoddolwyr eraill, Rhiannon Barrar, yr heddlu sydd ar fai am y newid: "Mae agwedd yr heddlu wedi newid. Ac mae pobl yn cael eu harestio oherwydd mae'n nhw'n dlawd.

"Maen nhw'n cael sanctions, ac wedyn mae hwnna'n neud y sefyllfa yn waeth fyth. Dwi ddim yn gwybod pam bod eu hagwedd wedi caledu fel hyn."

Ychwanegodd: "Ers yr haf... rydyn ni wedi gweld gwahaniaeth ac wedi clywed mwy o straeon gan y bobl ddigartref yma.

"Mae llawer ohonyn nhw just yn anlwcus. Mae'r broblem yn gymhleth a mae lot o resymau pam maen nhw ar y strydoedd, ond mae rhai rili moyn codi eu hunain o'r sefyllfa yma."

Ers dechrau Awst mae 11 person wedi cael eu harestio am gardota yn Abertawe, gyda saith o'r rheiny'n cael eu cyhuddo.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod amddiffyn y rhai mwyaf bregus mewn cymdeithas yn "flaenoriaeth" iddynt, a bod swyddogion lleol yn gweithio'n agos gyda nifer o bartneriaid er mwyn sicrhau gwasanaeth addas i'r rhai mewn angen.

"Tra'n bod ni wedi ymrwymo i amddiffyn unigolion bregus, rydyn ni hefyd yn benderfynol o daclo troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y ddinas."

"Mae gennyn ni ddyletswydd i'r cyhoedd, sy'n disgwyl, ac yn haeddu gallu ymweld â chanol y ddinas heb gael eu dychryn neu eu poenydio.

"Mae begera yn drosedd ac mae'n rhaid i ni weithredu'r gyfraith yma fel unrhyw gyfraith arall."