Lluniau: Bywyd mewn banc bwyd dros y Nadolig
- Cyhoeddwyd
Fel y stryd fawr, mae banciau bwyd yn prysuro dros y Nadolig gyda rhai unigolion a theuluoedd yn dibynnu arnynt.
Mae banc bwyd Caerfyrddin wedi cynnig bwyd a chefnogaeth i bobl leol ers 2011 ac yn cael ei redeg gan Eglwys Gymunedol Tywi. Nadolig yw un o'r cyfnodau mwya' prysur yno, gyda'r tywydd oer a chostau'r Ŵyl yn rhoi pwysau ychwanegol ar bobl mewn argyfwng.
Yn ôl Bronwen, un o'r gwirfoddolwyr: "Mae pobl Caerfyrddin wedi bod yn dod trwy'r dydd ers tair wythnos i gyfrannu bwyd a phob math o bethau Nadoligaidd, yn gwybod fod eisiau rhyw treat bach arno ni i gyd."
Buodd Cymru Fyw yno i weld prysurdeb y banc bwyd cyn y Nadolig.
Lluniau: Aled Llywelyn


Cyfarfod a gweddi i'r gwirfoddolwyr cyn i waith y dydd gychwyn.






Mae'r banc bwyd yng Nghaerfyrddin yn rhan o rwydwaith y Trussell Trust.


Ym mis Rhagfyr 2017, rhoddodd banciau bwyd y Trussell Trust dros 150,000 o becynnau bwyd i bobl mewn angen.


Mae'r gwirfoddolwyr yn labelu'r bwyd gyda dyddiadau defnyddio.


Storio'r bwyd yn ôl dyddiad er mwyn sicrhau fod y bwyd yn y pecynnau yn iawn i'w bwyta.


Y flaenoriaeth yw bwyd ond mae angen pethau fel sebon, shampŵ a nwyddau hylendid merched hefyd. Mae un dyn busnes lleol wedi cyfrannu dros 2,000 o roliau papur tŷ bach.


Siwmperi plant er mwyn eu cadw'n gynnes.


Anrhegion Nadolig i blant ar gyfer teuluoedd sy'n methu fforddio costau'r Ŵyl.


Siocledi i'w rhoi yn y pecynnau bwyd Nadolig.


Mae pob pecyn bwyd wedi ei gynllunio gan ddeietegydd i fod yn faethlon.


Mae 'na 30 o wirfoddolwyr yn helpu yno.


Hetiau a hwyl y Nadolig - cyfle i fwynhau dished a siocled ar ôl i waith y dydd i ddod i ben.

Efallai o ddiddordeb: