Ffigyrau gordewdra yn 'frawychus'
Gordewdra yn hytrach nag ysmygu yw'r her fwyaf sy'n wynebu iechyd y genedl erbyn hyn.
Dyma rybudd arbenigwyr iechyd cyhoeddus sy'n dweud fod cynnydd yn niferoedd y bobl sydd dros eu pwysau yn golygu y gallai plant heddiw farw'n iau na'u rhieni.
Daw'r rhybudd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth gyntaf i geisio taclo gordewdra.
Dywedodd y dietegydd arbenigol Sioned Quirke fod y cynnydd mewn lefelau gordewdra dros y blynyddoedd diwethaf yn "frawychus", gan ychwanegu fod pwysau unigolyn yn effeithio ar bob agwedd o fywyd.