Rhybudd gordewdra: Gall blant farw'n iau na'u rhieni
- Cyhoeddwyd
Gallai plant heddiw farw'n iau na'u rhieni yn sgil y cynnydd yn nifer y bobl sydd dros eu pwysau, yn ôl arbenigwyr.
Rhybudd swyddogion iechyd cyhoeddus ydy mai gordewdra yn hytrach nag ysmygu yw'r her fwyaf sy'n wynebu iechyd y genedl erbyn hyn.
Daw'r rhybudd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth gyntaf i geisio mynd i'r afael â gordewdra.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, un flaenoriaeth fydd creu'r amgylchiadau sy'n ei gwneud hi'n "arferol ac yn hawdd" i fwyta'n iach a chadw'n heini.
Fe fydd y llywodraeth yn ymgynghori ar y syniadau sy'n rhan o strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach yn ystod y 12 wythnos nesaf.
Yr uchelgais yw lleihau'r nifer sy'n ordew dros 10 mlynedd - er eu bod nhw'n cydnabod nad oes unrhyw wlad wedi llwyddo i wneud hynny hyd yn hyn.
Gordewdra yng Nghymru
Mae un o bob wyth plentyn pedair i bump oed yn ordew - mae hyn yn uwch nag unrhyw ranbarth yn Lloegr.
Mae'r broblem yn dueddol o fod yn fwy difrifol mewn cymunedau difreintiedig.
Bob blwyddyn mae 10,000 o oedolion ychwanegol yn dod yn ordew.
Mae un o bob tri oedolyn rhwng 45 a 64 oed yn ordew.
Un o amcanion y strategaeth yw ceisio taclo'r stigma sy'n gysylltiedig â bod dros bwysau, a gwneud sgyrsiau am bwysau yn rhai naturiol i'w cael gyda meddyg teulu.
Nod arall yw gwneud hi'n haws i unigolion wneud dewisiadau iach o ran diet a ffordd o fyw, beth bynnag eu cefndir neu'u hincwm.
Mae'r strategaeth yn cydnabod bod gordewdra yn broblem hynod o anodd ei ddatrys ac yn her i arweinwyr gwleidyddol, arweinwyr iechyd ac i gymdeithas yn ehangach.
Ond, mae'n mynnu fod pawb â rhan i'w chwarae wrth geisio dod o hyd i atebion.
Y gobaith yw bod Cymru yn ddigon bach ond â digon o rymoedd deddfwriaethol i allu ceisio taclo'r problemau.
Cynnwys y strategaeth
Cyfyngu ar hysbysebu a hyrwyddo bwydydd afiach mewn mannau cyhoeddus - o arosfannau bysiau i ddigwyddiadau chwaraeon.
Cymell prynu bwyd iachach - er enghraifft, cyflwyno rheolau newydd o ran gostwng prisiau bwydydd sydd ddim yn iach, ac annog cwmnïau bwyd i greu opsiynau iachach sy'n rhad.
Ysgogi cynnydd mewn siopau bwyd mwy iach - gallai hyn gynnwys defnyddio rheoliadau cynllunio a threth.
Gwahardd gwerthu diodydd egni i bobl dan 16 oed o bob siop.
Creu "amgylcheddau iach" mewn prosiectau adeiladu newydd ar gyfer tai, ysgolion ac ysbytai - yn ogystal â phrosiectau fel Metro De Cymru.
Cynyddu darpariaeth chwaraeon a mannau gwyrdd yn agos at drefi a dinasoedd.
Sicrhau fod ysgolion, meithrinfeydd, colegau a gweithleoedd yn fannau sy'n hwyluso bywydau iach.
Dywedodd Mr Gething fod "gormod o bobl yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew" a bod nifer y plant pedair i bump oed sydd dros eu pwysau yn "destun pryder cenedlaethol".
"Nid yw'r llywodraeth hon yn barod i adael i ddiet gwael neu ddiffyg ymarfer corff fod yn nodweddion amlwg ym mywydau ein plant a'n pobl ifanc," meddai.
"Rydym yn awyddus i annog pobl i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain, i golli pwysau ac i fod yn egnïol.
"Os na lwyddir i wneud hyn, mae gallu'r Gwasanaeth Iechyd i fod yn gynaliadwy yn y tymor hir yn y fantol."
Ychwanegodd Mr Gething nad oes ateb hawdd i'r broblem, ac mai dyma her fwyaf ein cenhedlaeth o ran iechyd y cyhoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd16 Mai 2017
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2018