'Ni'n gobeithio agor hi'r holl ffordd - os gallwn ni'
Mae ymgyrch ar y gweill yn Sir Gaerfyrddin i droi rhan o hen reilffordd y Cardi Bach yn lwybr i gerddwyr.
Mae cais swyddogol wedi ei gyflwyno i'r cyngor sir i droi rhan o'r hen drac rhwng Llanglydwen a Login yn lwybr cyhoeddus, ond mae'n wynebu gwrthwynebiad gan dirfeddiannwr lleol.
Fe gaeodd rheilffordd y Cardi Bach - oedd yn rhedeg rhwng Hendy-gwyn ac Aberteifi - i deithwyr ym mis Medi 1962, er mawr siom i'r cymunedau yn Nyffryn Taf yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio gorchymyn i greu llwybr cyhoeddus ar y tir, gyda chyfnod ymgynghori yn parhau tan 4 Chwefror.
Does dim sain ar y lluniau yma o daith olaf y Cardi Bach.