Ymgyrch i ailagor rhan o lwybr rheilffordd y Cardi Bach

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Taith olaf y Cardi Bach yn 1962

Mae ymgyrch ar y gweill yn Sir Gaerfyrddin i droi rhan o hen reilffordd y Cardi Bach yn lwybr i gerddwyr.

Mae cais swyddogol wedi ei gyflwyno i'r cyngor sir i droi rhan o'r hen drac rhwng Llanglydwen a Login yn lwybr cyhoeddus, ond mae'n wynebu gwrthwynebiad gan dirfeddiannwr lleol.

Fe gaeodd rheilffordd y Cardi Bach - oedd yn rhedeg rhwng Hendy-gwyn ac Aberteifi - i deithwyr ym mis Medi 1962, er mawr siom i'r cymunedau yn Nyffryn Taf yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llunio gorchymyn i greu llwybr cyhoeddus ar y tir, gyda chyfnod ymgynghori yn parhau tan 4 Chwefror.

Os fydd yna wrthwynebiad swyddogol, yna fe fydd Arolygydd Cynllunio yn gorfod gwneud y penderfyniad terfynol.

Cafodd Eurfyl Lewis ei eni a'i fagu ym mhentref Login, ac mae'n byw erbyn hyn yn Llanglydwen: "Dwi wedi bod yn cerdded y llwybrau hyn erioed.

"Fues i yn pysgota'r afon yn blentyn - fi a'n ffrind - lan yn Llanglydwen a cherdded 'nôl ar hyd y rheilffordd fan hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwâl y Filiast yn dyddio o'r Oes Neolithig

Roedd Mr Lewis ymhlith y teithwyr olaf ar y Cardi Bach pan gaeodd y rheilffordd ar 8 Medi 1962.

Ychwanegodd y byddai ailagor llwybr y rheilffordd yn hwb i dwristiaeth, ac yn denu mwy o bobl i weld cromlech drawiadol Gwâl y Filiast sydd yn dyddio o'r Oes Neolithig.

'Trysor cudd'

"Mae potensial aruthrol a bydd e hefyd yn hwb i'r economi leol. Mae yna fusnes yma yn Login - yr hen orsaf - ble maen nhw'n gwneud te prynhawn.

"Mae yna dafarn yn Llanglydwen. Mae yna fythynnod gwyliau.

"Dwi'n sicr y byddai'n hwb i fusnesau lleol," meddai Mr Lewis.

"Mae Gwâl y Filiast i fi yn un o drysorau cudd yr ardal. Mae pawb yn gwybod am gromlech Pentre Ifan lawr ger Trefdraeth.

"Mae yna filoedd yn mynd yna bob blwyddyn. A 'sa i'n gweld pam na allwn ni gael miloedd o ymwelwyr i Gwâl y Filiast hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Taith olaf y Cardi Bach o Hendy-gwyn i Aberteifi

Yn ôl dogfennau Cyngor Sir Caerfyrddin, mae yna wrthwynebiad wedi bod gan berchennog y tir.

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu gyda'r perchennog i gael ei ymateb.

Mae'r cais am lwybr i gerddwyr wedi cael cefnogaeth y cynghorydd sir lleol, Dorian Phillips, sy'n dweud bod yna fwriad hirdymor i agor llwybr i gerddwyr yr holl ffordd o Hendy-gwyn i Aberteifi:

"Ni'n dechrau gweithio arno fe nawr. Ni'n gobeithio agor hi'r holl ffordd os gallwn ni.

"Mae eisiau i ni siarad â Sir Benfro a gobeithio rhyngom ni gallwn ni neud e. Fe fyddai hynny yn arbennig."