Eira Ebrill: Eich lluniau chi
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n wanwyn, y coed yn blaguro a'r gwenoliaid wedi dechrau cyrraedd, ond ar ôl cyfnod y dywydd braf, roedd yna groeso rhynllyd iddyn nhw yn wythnos gyntaf Ebrill wrth i rannau o Gymru ddeffro i flanced o eira.

Mae un o'r rhain yn help garw mewn eira ar dir uchel

Mae bwyd yn brin i'r defaid yma yn yr eira yng Nghaerffili

Golau hyfryd wrth i'r haul godi dros Lansilin dan eira ym Mhowys

Yn Ninas Mawddwy, roedd Meirion Jones a'i gi yn ceisio cadw'n gynnes wrth helpu gyda'r wyna ar fferm ei deulu

Mae'r eira yn achosi trafferthion i ffermwyr ond mae'n gwneud i'r bryniau edrych yn hynod o dlws

Roedd yna flodau bach wedi cael dipyn o sioc yng Nghwm Cynllwyd ger Llanuwchllyn

Roedd y caeau yno'n wyn a dim golwg fod y pluo yn dod i ben fore Mercher

P'nawn dydd Mercher oer yn Nyffryn Ogwen

Y ffordd yn glir ond y copaon yn wyn yng Nghapel Curig

Yr eira wedi troi'r byd yn ddu a gwyn yng Nglynebwy

Fyddai hi ddim yn ddoeth i neb fentro dros Fwlch-y-Groes, ffordd uchaf Cymru, yn ôl llun arall a dynnwyd ddydd Mercher gan Meirion Jones, sy'n ddyn camera i'r BBC

Rhannodd Gwynfor Coaches lun o Ben-y-Pass ar Facebook i egluro pam nad oedd eu gwasanaeth yn rhedeg yno fore Mercher

Stori debyg oedd ar ffordd Bylchau, Mynydd Hiraethog, rhwng Sir Ddinbych a Chonwy meddai Tudur Davies

"Druan â'r ŵyn bach newydd," meddai gohebydd BBC Cymru, Sara Gibson, oedd ddim wedi disgwyl yr olygfa yma wrth yrru drwy Ffostrasol
Ond mae'n debyg nad ydi eira yn mis Ebrill yn anarferol yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae eira'n fwy tebygol o syrthio yn Ebrill nag yn mis Tachwedd medden nhw, ond yn fwy tebyg o aros ar y ddaear ym mis Tachwedd nag Ebrill.
Felly peidiwch â thynnu'r fest 'na eto!
Ac o leia mae'r cyfuniadau tywydd od rydyn ni'n ei gael yr amser yma o'r flwyddyn yn gallu creu golgfeydd rhyfeddol o dlws fel yr enfys isel yma dros draeth Harlech mae Gwyn Headley wedi ei ddal ar gamera.

Mae eich rhagolygon lleol ar wefan dywydd y BBC (newidiwch yr iaith i Gymraeg dan y pennawd Gosodiadau/Settings a dewis eich lleoliad yn blwch chwilio)
Hefyd o ddiddordeb: