Cosb yn effeithio dim ar gynlluniau cefnogwyr CPD Bangor
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i dynnu 42 o bwyntiau oddi arnyn nhw am dorri rheolau ariannol yn ymwneud â chofrestru chwaraewyr.
Fe fyddai'r gosb yn golygu eu bod yn disgyn o Gynghrair Undebol Huws Gray i'r drydedd adran yng Nghymru - dau dymor wedi iddyn nhw orffen yn ail yn Uwchgynghrair Cymru.
Mae'r clwb yn mynnu eu bod wedi cydymffurfio â'r rheolau cofrestru a bod y gosb yn un "eithriadol o lym".
Fydd y datblygiad diweddaraf yma wedi cyfnod hir o helyntion i'r clwb ddim yn atal ymdrechion cefnogwyr i geisio clwb newydd, yn ôl Dafydd Hughes o Gymdeithas Cefnogwyr CPD Dinas Bangor.