Cosb lem i CPD Bangor am dorri rheolau ariannol

  • Cyhoeddwyd
CPD Bangor

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor yn wynebu disgyn i'r drydedd adran yng Nghymru ar ôl eu cael yn euog o dorri rheolau ariannol yn ymwneud â chofrestru chwaraewyr.

Yn sgil penderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru, fe fyddan nhw'n colli 42 o bwyntiau sy'n golygu y byddan nhw'n disgyn o'r Gynghrair Undebol.

Mae'r clwb hefyd wedi eu gwahardd rhag arwyddo chwaraewyr am weddill y flwyddyn.

Ond mae'r clwb yn mynnu eu bod wedi cydymffurfio â'r rheolau cofrestru, bod y gosb yn un "eithriadol o lym" a bydd penderfyniad y gymdeithas yn effeithio ar "lawer" o glybiau yng Nghymru.

Yn ôl y gymdeithas bêl-droed, mae'r clwb wedi torri nifer o reolau gan gynnwys methu "cydymffurfio â'u goblygiadau at chwech o'u chwaraewyr proffesiynol presennol a / neu gyn-chwaraewyr proffesiynol", a chynnwys chwaraewyr anghymwys oedd wedi eu harwyddo neu eu trosglwyddo y tu allan i'r ffenestr drosglwyddo.

Mae gan y clwb tan 29 Mai i gyflwyno apêl, ac mae'r clwb wedi cadarnau bod bwriad i wneud hynny.

Ffynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae helyntion diweddar y clwb yn cynnwys colli'r cyflenwad trydan yn Stadiwm Nantporth am fethu talu bil

42 o bwyntiau yw cyfanswm pwyntiau'r clwb yng Nghynghrair Undebol Huws Gray yn ystod tymor 2018/19, ac fe fyddai'r gosb yn golygu eu bod yn llithro o'r ail gynghrair.

Roedden nhw'n ail yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwedd tymor 2017/18 cyn i'w cais am drwydded i barhau ar y lefel yno fethu.

Ers hynny mae'r clwb wedi osgoi cais i'w ddirwyn i ben dros fethiant i dalu treth, a bu'n rhaid chwarae gêm gartref ar faes Conwy ym mis Ionawr wedi toriad yn y cyflenwad trydan a dŵr dros fil oedd heb ei dalu.

Disgrifiad,

Bydd cefnogwyr Bangor yn bwrw ymlaen â chais i ffurfio clwb newydd, medd Dafydd Hughes

Ym mis Ebrill, fe bleidleisiodd Cymdeithas Cefnogwyr CPD Dinas Bangor o blaid sefydlu clwb newydd, ac yn ôl Dafydd Hughes ni fydd y gosb yn effeithio ar eu hymdrechion.

Mae cais ffurfiol wedi ei gyflwyno i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, a fydd yn cael ei ystyried ar 17 Mehefin.

Dywedodd Mr Hughes: "Mae'n anodd meddwl am unrhyw glwb sydd wedi cael ei gosbi i'r fath raddau yn y gorffennol.

"Wrth gwrs, mae 'na 12 cyhuddiad yn erbyn y clwb a ma' nhw i gyd yn cario rhyw fath o ddirwy.

"Mae'r clwb wedi dweud bod nhw'n apelio - maen nhw'n gwadu i bob pwrpas bod nhw 'di neud dim byd o'i le... amser a ddengys be' ddoith o hynny."