Jude yn diolch i'r bobl a'i achubodd rhag boddi

Mae bachgen 10 oed wedi cael cyfle i gwrdd â'r unigolion a helpodd i achub ei fywyd haf diwethaf pan aeth i drafferthion ar arfordir Penrhyn Gŵyr.

Ar ôl cael ei sgubo gan gerrynt cryf wrth badlo gyda'i deulu, cafodd Jude Rees gyngor gan fenyw leol, Ceri Saunders i arnofio ar ei gefn ac osgoi cynhyrfu cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Mae Jude nawr yn pasio'r un neges ymlaen i eraill wrth i'r RNLI gadarnhau bod 18 o bobl wedi marw oddi ar arfordir Cymru yn 2018.

Roedd yn naw oed adeg y digwyddiad ac yn nofiwr hyderus, ond roedd y cerrynt yn rhy gryf iddo allu nofio i'r lan.