Apêl bachgen i arnofio rhag boddi wrth ddiolch i achubwyr

  • Cyhoeddwyd
Jude ReesFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Jude Rees gael ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei sgubo ryw 300 medr i'r môr wrth badlo gyda'i deulu fis Awst y llynedd

Mae bachgen 10 oed a fu bron â boddi oddi ar arfordir Gŵyr yn annog pobl i gofio cyfarwyddyd syml all eu cadw'n fyw pe tasen nhw'n mynd i drafferthion oddi ar yr arfordir.

Cafodd Jude Rees ei sgubo gan gerrynt cryf fis Awst y llynedd wrth badlo gyda'i deulu yn ardal Pwll Glas yn Broughton Bay.

Ond wrth gwrdd â'r unigolion fu'n rhan o'r ymateb i'r digwyddiad a diolch iddynt am achub ei fywyd, mae Jude yn pwysleisio pwysigrwydd cyngor yr RNLI i arnofio ar y cefn ac osgoi cynhyrfu mewn amgylchiadau tebyg.

Dyna'r cyngor a gafodd yntau y llynedd gan fenyw leol, Ceri Saunders a aeth i'r dŵr i'w achub ar ôl gweld bod y cerrynt yn rhy gryf iddo nofio'n ôl i'r lan.

Disgrifiad,

Dywed Jude ei bod yn diolch yn fawr i'r bobl a'i achubodd rhag boddi

Cafodd Jude a'i fam gyfle i gwrdd â Ms Saunders a gwirfoddolwyr bad achub Porth Tywyn wrth i'r RNLI gadarnhau bod 18 o bobl wedi marw oddi ar arfordir Cymru yn 2018.

Mae'r ystadegau'n dangos bod:

  • 94% o'r bobl fu farw - 17 allan o 18 - yn ddynion;

  • 39% rhwng 36 a 50 oed; a

  • 28% rhwng 19 a 35 oed.

  • Roedd 39% ddim wedi bwriadu mynd i'r dŵr, ac wedi gwneud hynny ar ôl llithro, baglu neu syrthio wrth gerdded neu redeg.

15 oedd nifer y marwolaethau ar gyfartaledd bob blwyddyn yn y cyfnod rhwng 2014 a 2018, ond roedd cyfanswm 2017 - wyth, a phob un yn ddyn - yn sylweddol is.

Dywed yr RNLI bod tywydd poeth haf y llynedd wedi cyfrannu at y cynnydd yn 2018 wrth i bobl heidio i'r arfordir, ond bod y ffigyrau'n dangos bod angen mwy o waith i leihau'r perygl ymhlith dynion.

Ffynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jude Rees gyfle i gwrdd â gwirfoddolwyr yng ngorsaf bad achub Porth Tywyn

Mae ymgyrch y gwasanaeth ar gyfer haf eleni yn cynghori'r cyhoedd i ymlacio ac arnofio ar y cefn os ydynt yn mynd i drafferthion mewn dŵr oer.

Trwy wneud hynny, yn hytrach na chynhyrfu a gorflino wrth geisio nofio, mae'n haws i reoli'r anadl ac osgoi llenwi'r ysgyfaint â dŵr.

Dywedodd Chris Cousens o'r RNLI: "Mae modd osgoi llawer o'r marwolaethau trasig ar yr arfordir os yw pobl yn deall y risgiau ac yn paratoi eu hunain trwy ymarfer y dechneg arnofio.

"Fe allai gwybod beth i'w wneud ar ôl syrthio i ddŵr oer fod y gwahaniaeth rhwng byw a marw."

Bydd yr ymgyrch yn cynnwys posteri a hysbysebion sinema, teledu, radio ac ar-lein.

Ffynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Jude Rees gyda'i fam (tu ôl iddo) a Ceri Saunders (yn y canol) gydag aelodau bad achub Porth Tywyn

Roedd Jude Rees yn naw oed ac yn nofiwr hyderus pan aeth i drafferthion fis Awst y llynedd. Cafodd ei rieni eu sgubo i greigiau wrth geisio mynd ato.

Llwyddodd Ms Saunders, nofiwr môr profiadol, i'w gyrraedd wedi i'w mab ei hun geisio helpu'r bachgen.

Wrth iddi ei annog i arnofio a phwyllo, fe gofiodd Jude mai dyna oedd neges yr RNLI pan ymwelodd un o'u cynrychiolwyr â'i ysgol.

Yn y cyfamser, roedd un o'i frodyr ac ymwelwyr eraill â'r traeth wedi ffonio'r gwasanaethau brys.

Dywed Jude ei fod wedi treulio 20 munud yn y dŵr ond bod y cyfnod yn teimlo'n "hirach" na hynny.

"Roedd cryfder y cerrynt yn anhygoel," meddai ei dad, Paul. "Oll oedden ni'n gallu ei wneud oedd gwylio a gweddïo.

"Rydym yn gobeithio bod pobl yn dilyn cyngor yr RNLI oherwydd does dim amheuaeth gen i, bod y cyngor wedi helpu i'w achub y diwrnod hwnnw.

"Pan gyrhaeddodd y bad achub Jude roedd y cerrynt wedi ei sgubo ymhell o'r fan lle roedd yn padlo 25 munud ynghynt.

"Yn rhyfeddol, trwy arnofio ac osgoi gorflino roedd Jude yn dal â rhywfaint o nerth ar ôl wrth gael ei godi o'r dŵr."