Côr CF1 yn canu gyda Take That
- Cyhoeddwyd
Cip gefn llwyfan wrth i aelodau lwcus Côr CF1 baratoi i serennu ochr-yn-ochr â'r boyband byd-enwog, Take That, mewn noson fythgofiadwy yn Stadiwm y Principality, Caerdydd.
Lluniau gan Betsan Haf Evans.

Y stadiwm yn wag wrth ymarfer yn y prynhawn, ond byddai'n orlawn mewn ychydig oriau...

Lisa, y coreograffydd, yn rhybuddio'r altos i beidio â chynhyrfu'n ormodol a neidio ar Gary Barlow

Dawns eiconig Never Forget






Y ddawnswraig Tori Johns yn rhoi ychydig o gyngor munud olaf. Hi sydd wedi bod yn helpu'r côr i ddysgu'r holl symudiadau

Draig anhygoel Becky Davies i gynrychioli'r côr a Chaerdydd

Ac ymlaen â'r gwisgoedd!


Mae angen cynhesu'r llais cyn mynd i ganu o flaen 55,000 o bobl yn y stadiwm, a miloedd mwy mewn sinemâu ar draws y byd

Daeth Lulu draw i wneud ychydig o ymarferion llais. Roedd hi'n ymuno â'r band i ganu Relight my Fire

Welwn ni chi ar y llwyfan!
Hefyd o ddiddordeb: