Pen-blwydd yn 70: Oriel atgofion Heather Jones
- Cyhoeddwyd
![Heather Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/48C6/production/_89803681_161a9d51-3761-44a4-be30-150afdc2c46a.jpg)
Mae'r gantores Heather Jones wedi arloesi a chwarae rhan amlwg yn y sîn gerddorol yng Nghymru ers dros hanner canrif ac mae'n dathlu ei phen-blwydd yn 70 oed ar 12 Mehefin 2019.
I ddathlu ei charreg filltir gofynnodd Cymru Fyw iddi hel atgofion drwy gasglu lluniau arwyddocaol o'i bywyd a'i gyrfa.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/D4AB/production/_107334445_4abd269d-ff06-408f-823e-5bbbbb1f5ab9.jpg)
![Harbourmaster, Aberaeron](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11980/production/_107346027_d088fa5f-4f30-4aca-a50d-6cf66daa8aeb.jpg)
Aberaeron a'r Harbourmaster, 1932
Y gwreiddiau teuluol
Mae'r llun yma o Aberaeron yn 1932 wedi ei dynnu gan fy nhad-cu, William Morris-Jones.
Mae'n bwysig i fi achos roedd yn Gymro Cymraeg yn byw yn Aberaeron fel dyn ifanc ond roedd rhaid iddo adael i chwilio am waith.
Ges i'r fraint o ganu yn yr Harbourmaster yn ddiweddar a hefyd yn y Neuadd Goffa. Roedd fy nheulu yn byw drws nesa' tan y chwedegau. Atgofion melys.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Cartref Heather Jones ar St Brioc Rd, Caerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E471/production/_107318485_heather_llun2.jpg)
St Brioc Rd, Y Mynydd Bychan, Caerdydd
Cartref cynta'
Dyma lle ges i fy ngeni, 3 St Brioc Road, Heath, Caerdydd - lawr stâr, yn y room ffrynt! Wnes i fyw yma am ugain mlynedd - ugain mlynedd hapusa fy mywyd. Dyddiau diniwed yn chwarae ar y stryd, 'Mob, Mob' (chwarae cuddio), rounders, cynnal jumble sales a chwarae gyda fy ffrindiau sy'n dal yn glos hyd heddiw - Sue a Pamela.
Un teulu hapus - roedd tad-cu Sue (Dat) yn siarad Cymraeg ac yn helpu ni gyda'r iaith.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Heather Jones yn y môr yn flwydd a hanner](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/13291/production/_107318487_heather_llun3.jpg)
Heather Jones yn y môr yn flwydd a hanner
Cariad at y môr, 1951
Heather Jones yn y dŵr! Dyma fi yn mwynhau y traeth a lan y môr. Roedd Mam a Dad wastad yn mynd â ni (fi a'm brodyr Malcolm (Mac) a Gareth) ar wyliau, fel arfer yng Nghymru - Y Bermo, Aberaeron, Borth, Porth Einion, Aberporth, Harlech, Beddgelert a Prestatyn. Mewn carafán oedden ni fel arfer ac roedden ni'n caru'r môr a'r traeth. Dwi'n nofio yn aml nawr.
Dwi'n cofio mynd gyda fy nhad i Cold Knap (ger y Barri) yn hwyr yn y nos - fe yn nofio yn y môr oer a fi yn edrych ar ôl ei ddillad ar y traeth. Roedd yn rhy oer i mi! Roedd Dad a fi yn glos iawn - bu farw yn 1977.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Heather ar Hob y Deri Dando](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/13B29/production/_107318608_tv033162432.jpg)
Dechrau ar y teledu
Dyma fy rhaglen deledu gyntaf yn 1966, rhaglen wych o'r enw Hob y Deri Dando. Roedd fy ffrind gorau o Ysgol Cathays, Barbara, yn eistedd drws nesaf imi. Yn drist iawn roedd hi wedi marw 20 mlynedd yn ôl yn 50 oed ond mae gen i atgofion ffantastig llawn o hwyl a mitching off!
Mae ffrind arall i mi, Meinir Evans (Meinir Ffransis nawr), merch Gwynfor Evans, yn eistedd tu ôl i mi.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Heather Jones a Mari Gruffydd yn canu yn 1966](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/5F7B/production/_107334442_ed7e441c-e228-4c56-b41e-0c4d2b824b04.jpg)
Heather Jones a'r ddiweddar Mari Griffith yn canu yn 1966
Gadael coleg a dechrau canu o ddifri
Fi a Mari Griffith yn 1968 mewn cyngerdd ym Mhontrhydfendigaid. Mae hi'n edrych yn gorjys a dwi'n edrych fel plentyn bach!
Ond roedd y gwaith yn dechre dod i mewn yn gyson a wnes i adael coleg y flwyddyn ar ôl hyn i ddilyn bywyd cantores broffesiynol.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Y Bara Menyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/11407/production/_107336607_heather2.jpg)
Heather gyda Meic Stevens a'i gŵr cyntaf, Geraint Jarman - aelodau'r Bara Menyn
Blwyddyn Bara Menyn
Llun o fi, Geraint Jarman a Meic Stevens yn canu fel Bara Menyn yn Neuadd y Brangwyn yn 1969.
Dim ond blwyddyn o gigs a gwaith teledu wnaethon ni ond roedd yn flwyddyn ffantastig ac yn gyfeillgarwch sy'n parhau hyd at heddiw.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Heather gyda'i merch Lisa ar siglen yn y parc yn 1972 cyfres Gwrando ar Fy Nghân](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/868B/production/_107334443_feac8731-35bb-49dc-babd-1d7b0b02eee7.jpg)
Ffilmiodd Heather gyda'i merch, Lisa Jarman, ym Mharc y Rhath ar gyfer y gyfres Gwrando Ar Fy Nghân
Cyfres fy hun
Yn 1972 ar ôl dipyn o waith ar BBC ac HTV ges i'r fraint o gael cyfres fy hun o'r enw Gwrando Ar Fy Nghân.
Roedd yn gyffrous iawn i ferch 22 oed. Chwech o raglenni a rhai caneuon gyda grŵp trydan ar ffilm.
Roedd Colleen, y wraig wardrôb, wedi gwneud côt i fy merch Lisa Grug i matchio un fi! Roedd yn hyfryd i gael cyfres - yn Gymraeg. Roedd fy nhad mor browd achos oedd e a'i frawd ddim yn siarad Cymraeg ac yn colli fe yn fawr.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![heather Jones ar Ryan a Ronnie](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/11EE3/production/_107334437_tv038495479.jpg)
Heather ar raglen Ryan a Ronnie yn y saithdegau
Ryan a Ronnie
Roeddwn i'n gweithio gyda Ryan a Ronnie yn aml, ar y teledu ac mewn cyngherddau. Rwy'n cofio mynd yn Jag Ryan i Ogledd Cymru - very posh!
Roedden yn ffrindiau da i mi, a'r Hennessys hefyd. Fi oedd yr unig ferch weithiau ond roeddent yn hapus i edrych ar ôl fi.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Heather, Mike a Jane, aelodau Hin Deg](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7329/production/_107318492_heather_llun9.jpg)
Teithio gyda Hin Deg, 1980-2010
Fi, Mike Lease a Jane Ridout - aelodau'r grŵp gwerin Hin Deg. Dyma oedd fy ngrŵp cyntaf oedd yn rili broffesiynol. Gawson ni lwyth o gigs, teledu a gwyliau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Iwerddon.
Roedden ni'n teithio llawer i Canada a'r USA - roedd yr un olaf yn Disney World - ffab!
Roedd Mike a Jane yn gerddorion ffantastig ac yn ffrindiau da. Rwy'n falch ein bod ni wedi gwneud un CD i gofio y dyddiau hapus yma gyda nhw.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Heather a'i gŵr Dave yn priodi yn 1987](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9A39/production/_107318493_heather_llun10.jpg)
Priodas Heather a Dave Coates yn 1987
Priodi Dave
Priodas Dave a fi yn 1987. Roedd Dave yn ddrymiwr yn un o'n grwpiau i ac roedd rhaid i mi roi lifft iddo i'r gigs yn fy Renault 4 pinc!
Daeth cariad yn gyflym iawn. Mae'n dal i ddrymio heddiw mewn sawl grŵp. Mae gennym ni fab, Sam, a merch, Megan Fflur. Atgofion melys.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Teulu Heather Jones i gyd ar achlysur pen-blwydd ei mam yn 90, 1987](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9EE9/production/_107318604_heather_llun11.jpg)
Y teulu a fy Mam hyfryd
Dyma'r holl deulu yn Neuadd Christchurch yn agos i Barc y Rhath i ddathlu pen-blwydd Mam yn 90 yn 2008.
Mae'r plant i gyd yna gan gynnwys fy mrodyr a'u plant nhw. Mam oedd fy ffrind gorau ac roedd hi wedi marw yn 98 oed! Cafodd fywyd llawn a hapus ar ôl cwrdd â fy nhad, yn fam hyfryd a mam-gu ffyddlon a ffab.
Roedd hi'n golled fawr ac roedd rhaid i ni golli St Brioc Road ar ôl 70 o flynyddoedd. Roedd yn drist iawn ond dwi'n mynd nôl yn aml i weld cymydog. Mae fy mrodyr i wedi symud i ffwrdd ond dwi'n falch mod i wedi aros yng Nghymru.
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/ECF7/production/_107336606_29589845-2d9a-4527-9183-3343b32f6755.jpg)
![Heather heddiw](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/AD9B/production/_107334444_424727dd-58d8-405b-a119-9d102616c2c4.jpg)
Y fenyw hyderus sy'n 70!
Mae'r fenyw hyderus yn y llun yma wedi dod trwy lawer o 'ups 'n downs' ond yn dal i fynd, a nawr dwi'n 70.
Dwi'n dal i ganu ond yn ymlacio mwy - mae hi'n amser i'r genhedlaeth nesaf nawr :).
Hefyd o ddiddordeb: